Mae stori garu bob amser yn apelio, yn enwedig at y rhyw deg, a does 'na'r un stori garu gwerth ei halen yn rhedeg yn esmwyth: rhaid fydd i rywbeth dorri ar draws cwrs cariad ac os y bydd i'r hanes ddiweddu ar nodyn trist - wel, dyna berffeithrwydd!Un o'r clasuron ymysg y straeon caru ydy'r hanes am fachgen cyffredin yn syrthio mewn cariad ag aeres teulu cefnog a'r fam yn gorfodi'r ferch i briodi mab i deulu cyffelyb, gyda'r canlyniad bod yr eneth yn marw o dorcalon. Dyna, yn ei hanfod, ydy hanes Y Ferch o Gefn Ydfa ond y gwahaniaeth rhwng yr hanes hwn a nifer o straeon eraill tebyg ydy fod hanes carwriaeth Wil Hopcyn ac Ann Thomas, Cefn Ydfa yn wir.
Safai plasty Cefn Ydfa ychydig filltiroedd o bentref Llangynwyd ger Maesteg, ac fel yr awgryma'r enw roedd yn fan delfrydol ar gyfer tyfu yd. William Thomas, gwr goludog a arferai bregethu'r efengyl oedd perchen y plas ac ym 1703 priododd â Catherine Price, chwaer y Parch. Rees Price, Llangeiner. Oes fer fu i'r briodas gan i William Thomas farw ymhen pedair blynedd a gadael ei eiddo i'w weddw. Golygai hyn mai ei ferch fach Ann oedd aeres Cefn Ydfa.
Ganwyd a bedyddiwyd Ann yr un diwrnod ar Fai 8fed, 1704 ac mae'r achlysur wedi ei gofnodi yng nghoflyfr y plwyf. Tyfodd Ann yn ferch hynod brydferth ac ni fu prinder o wyr bonheddig a geisiai ei llaw. Er hynny medrodd ei mam, gwraig hynod uchelgeisiol, eu cadw draw gan ei bod eisoes wedi cynllunio dyfodol ei merch gyda'r bwriad iddi briodi ag Anthony Maddocks o Gefnrisga, mab i gyfreithiwr y teulu.
Er bod Catherine Thomas wedi penderfynu pwy oedd priod Ann i fod, daeth bygythiad i'w chynlluniau o gyfeiriad hollol annisgwyl, sef plastrwr ac adeiladwr a oedd hefyd yn fardd, o'r enw Wil Hopcyn, mab Hopcyn Thomas a Diana Harry. Yn ôl y dystiolaeth, bedyddiwyd ef ym mis Tachwedd 1700. Er mai gweithiwr cyffredin oedd Wil hanai o deulu enwog Hopcyniaid y sir, yr oedd ganddynt gysylltiad teuluol â Iolo Morganwg.
Un diwrnod, galwyd am Wil i atgyweirio rhai o adeiladau Cefn Ydfa. Dyma'r diwrnod y bu iddo gyfarfod ag Ann am y tro cyntaf ac, fel ym mhob stori garu dda, fe syrthiodd y ddau mewn cariad.
Pan ddeallodd y fam am hyn anfonodd Wil oddi yno gan ei rybuddio i beidio byth ag ymweld â'r lle wedyn, ond roedd y fflam wedi'i chynnau ac nid oedd dim a'i diffoddai. Dechreuodd y ddau gwrdd yn y coed gerllaw'r ty, ond unwaith eto daeth meistres Cefn Ydfa i wybod a chlodd ei merch yn ei hystafell.
Tua'r adeg yma, mae'n debyg, y cyfansoddodd Wil y gân 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn' ac er mai i Gwen y canodd does dim dwywaith pwy oedd y ferch oedd ar ei feddwl : gan fod ei gariad tuag at Ann yn gyfrinachol nid oedd wiw iddo ei henwi hi yn y gân. Mewn cân serch arall oi eiddo, mae yn mentro ei henwi :
Pe cawn Ann lan yn briod,
Yn hynod fywiog ferch,
Mi wn nas dengys wybren
Un seren fwy o serch.
Mae'i grân fel gloyw berlyn,
Ar rosyn yn yr haf,
Ond trowd hi i garu arall
Er mwyn fy nghadw'n glaf.
Er cael ei chloi yn y ty llwyddodd y ferch ieuanc i anfon ambell nodyn at ei chariad. Arferai un o'r morynion gludo'r llythyrau a'u gadael mewn ceubren ar ymyl y ffordd gan ddychwelyd gyda llythyrau oddi wrth Wil Hopcyn. Roedd un o forynion y plas, Ann Llewelyn, â'i llygad ar Wil, ond ni fynnai ef wneud dim â hi. Gwyddai'r forwyn am y llythyran a gwelodd ei chyfle i atal y garwriaeth. Datgelodd y cyfan i Mrs. Thomas, gyda'r canlyniad i Wil ganu i'r forwyn ddialgar:
"Mae Ann Llewelyn felan,
Yn fy marnu drach fy nghefan;
Ond ni all wella'm gwedd a'm gwaith,
Y neidr fraith anniban."
Ar ôl darganfod cynllun y llythyrau gwnaeth y fam yn siwr na ddeuai dim rhagor i rwystro'r briodas rhwng ei merch a Maddocks a gwasgodd o ddifrif ar Ann drwy ei chloi yn y seler, a dygwyd oddi arni bob modd i anfon neges at Wil. Rywsut neu'i gilydd, yng nghanol ei hanobaith, medrodd anfon neges at ei chariad wedi ei hysgrifennu yn ei gwaed ei hun gyda nodwydd ar ddeilen sycamorwydden.
Ond y diwedd fu i Ann fodloni i briodi Maddocks a chynhaliwyd y briodas ar Fai 5ed. 1725, dri diwrnod cyn iddi gyrraedd ei un ar hugain oed. Er bod dathlu mawr yn Llangynwyd y diwrnod hwnnw roedd Wil wedi mynd yn ddigon pell. Aethai i weithio i Fryste i geisio anghofio Ann. Ond un noswaith breuddwydiodd fod Anthony Maddocks wedi marw a bod Ann yn rhydd iddo, a chan mor fyw oedd y breuddwyd dychwelodd Wil i'w gynefin heb ymdroi - i ddarganfod bod Maddocks yn holliach ac Ann druan yn wallgof ac ar ei gwely angau.
Pan glywodd Mrs. Thomas fod Wil yn y cylch anfonodd amdano gan mai ef oedd yr unig obaith i leddfu salwch ei merch. Yn ôl yr hanes, bu i Ann farw ym mreichiau ei chyn-gariad ac fe'i chladdwyd hi ym medd ei thad. Erbyn hyn mae cangell yr eglwys yn cuddio'r fan, a chodwyd y garreg wreiddiol a'i gosod o'r neilltu yn yr eglwys. Gosodwyd plac ar y bedd gyda'r geiriau: Here lies Ann, the wife of Anthony Maddocks, died June 16th 1727 a cherflun o wenith a deilen sycamorwydden arno. Bu farw Wil Hopcyn yntau ar Awst 19eg, 1741, bedair blynedd ar ddeg ar ôl Ann, o ganlyniad i ddamwain.
Bellach mae'r hen blasty yn furddun a dywedir bod ysbryd i'w weld yno o dro i dro. Bu'r hanes yn gyfrwng i symbylu dramâu, nofel a ffilm, ond prin fod yr un ohonynt yn rhagori ar yr hanes gwreiddiol. Mae'r gân Bugeilio'r Gwenith Gwyn yn atgof o'r serch a fu unwaith rhwng Wil Hopcyn ac Ann Thomas, Y Ferch o Gefn Ydfa.
Gwilym Jones