BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Hwyl yr ŴylGŵyl Jas Abersoch
Gorffennaf 2004
Daeth bwrlwm cerddoriaeth jas a lliw i bentref Abersoch am benwythnos ganol Mehefin.
Dyma'r drydedd ŵyl lwyddiannus i'w chynnal ac mae'n mynd o nerth i nerth. Daeth nifer o ymwelwyr a phobl leol i fwynhau yr orymdaith fywiog fore Sadwrn, gyda cheffylau gwyn hardd Pemberton yn arwain pawb trwy'r pentref - golygfa odidog!

Cafwyd bandiau jas enwog mewn lleoliadau trwy'r pentref yn ystod dydd a nos Sadwrn.

Bore Sul cafwyd gwasanaeth Gosbel, a chapel yr Annibynwyr dan ei sang. Roedd pob peth yn wefreiddiol wrth i'r band jas fod yn gerddorfa i'r emynau a phlant Ysgol Sul Y Graig wedi gwneud gwaith ardderchog.

Darllenwyd o'r ysgrythur gan Jean Williams, Llwyn. Y Parch. Janice Gourdie oedd yn arwain. Ychydig o wythnosau ynghynt trefnodd y pwyllgor bod ysgolion Abersoch, Sarn Bach, Mynytho a Llanbedrog yn cael Mr. John Glyn Jones, arweinydd Band Oakley, Blaenau Ffestiniog, a dau o'r band, sef Alan Jones ac Euros Lake i greu gweithdai cerddoriaeth offerynnau chwyth gyda'r plant. Cawsant ymateb gwych a phawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Cafodd rhai o'r plant gan eu pen-blwydd i fiwsig tebot a chan dŵr blodau! Cynhaliwyd cystadleuaeth posteri hysbysebu'r Ŵyl Jas a bu'r arddangosfa yn neuadd y pentref tan ddiwedd Mehefin.

Cafodd y beirniaid dipyn o waith penderfynu gan fod gwaith pawb o safon uche1. Dyma'r enillwyr o'r gwahanol ysgolion: Abersoch - Justin Drawbridge; Sarn Bach - Mared Thomas a Rebecca Hawkinson; Mynytho - Sera Griffith; Llanbedrog - Miriam Sautin a Ffion Roberts.

Cyflwynwyd anrheg i'r enillwyr gan Thelma Mills o'r Principality a thocynnau llyfr i'r ysgolion. Dymuna'r pwyllgor ddiolch i bawb lleol sydd wedi cefnogi'r ŵyl eleni mewn unrhyw ffordd ac i bawb o'r busnesau lleol fu mor groesawus gan addurno ffenestri eu siopau. Mae'r paratoadau yn barod wedi dechrau ar gyfer 2005!


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy