BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Allt-wibio yn Llanfihangel
25 Medi 2003
Bu'n Ha' braf a phrysur ac n o'r amryw o fusnesau sy'n llawenhau am hynny yw busnes newydd Allt-wibio Dafydd Parry Jones.
Yng Ngorffennaf eleni, agorodd y Ganolfan Allt-wibio ar ei dir yn Llanfihangel, Rhydyclafdy a coafodd 800 o ymwelwyr yn ystod y dau fis cyntaf.

Y fo sydd wedi bathu'r gair Allt-wibio i ddisgrifio'r gamp newydd o fynd ar y byrddau sglefrio mynydd.

Byrddau tebyg i'r sglefrfyrddau ydyn nhw ond hefo olwynion mwy a sbrings, er mwyn gallu mynd dros dir gwyrdd.

Rhywbeth yn debyg i sglefrio yn yr eira. Mae llawer yn ei gweld hi'n haws na sglefrfyrddio, ac yn ôl Dafydd, mae'n gweld pobl yn gallu mynd arnyn nhw yn iawn ar ôl rhyw awr o ymarfer.

Mae Dafydd Parry, ei ferch Esme a phedwar o hogiau lleol, Glyn, Rhys, Gavin a Robert wedi eu hyfforddi i ddysgu'r dechneg.

Cynlluniwyd y llethr gan Maxtrack yr arbenigwyr sy'n gefn i'r fenter.

Cliriwyd creigiau a gosodwyd ramps ac ati i wneud llwybrau pwrpasol.

Yn ystod y gaeaf mae'n fwriad i wella'r cyfleusterau eto.

Meddai Dafydd, 'Rôn i wedi bod yn chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud ers blynyddoedd, clywed am mountainboarding a phenderfynu mynd amdani.'

Hawdd iawn yw deall apêl y gamp, yn enwedig mewn llecyn mor hardd â Llanfihangel, gyda golygfeydd o gylch penrhyn Llyn, Ynys Môn, Bae Nefyn, yr Eifl, Eryri a thros y môr i Ardudwy.

Absolutely amazing!' yn ôl y fisitors! Pob lwc i'r fenter newydd.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy