BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Newid Byd

18 Rhagfyr 2003

Dyma ddechrau cyfres newydd sbon y mis hwn lle bydd gwahanol bobl yn datgelu efo pwy y basan nhwn dymuno newid byd tasai'r fath beth yn bosib ...

Gwyneth Sol Owen o Bwllheli biau'r golofn gyntaf, ond dechreuwch chwithau feddwl efo pwy y byddech chi'n ffeirio lle - rhag ofn mai ar eich gofyn chi y byddwn ni'n dwad nesa ...

Fel y rhan fwyaf o ferched canol oed, mi hoffwn i fod yn fengach, yn ddelach, yn deneuach, a llawer i '-ach' arall. Mi hoffwn i hefyd feddu ar ddoniau sy'n dod mor hawdd i eraill: medru canu fel Ann yr Hafod; medru rhaffu cynganeddion fel y bydda' Nhad yn 'i wneud ers talwm; medru cadw'r ty fel pin mewn papur fel fy chwiorydd yng nghyfraith. Ond, nes i'r Llanw roi'r syniad yn fy mhen, dw i ddim wedi meddwl am newid byd efo rhywun arall ers sawl blwyddyn bellach.

Dw i'n amau mai'r ifainc sy'n ysu fwyaf am y cyfle i newid byd. Yn sicr, pan oeddwn i tua saith oed, roeddwn i ar dân isio bod yn hogyn: peth digon naturiol i hogan fach efo dau frawd mawr, mae'n siwr. Ychydig flynyddoedd wedyn oeddwn yn cymryd arnaf newid lle efo'r cymeriadau diddorol oedd i'w gweld ar set deledu Nain Jôs yn Stryd Madog, Y Ffôr.

Wrth redeg adre o dy Nain i'n ty di-deledu ni bob nos Sadwrn, roeddwn yn siwr fod fy llamu a'm chwifio breichiau yr un mor osgeiddig a genod y Black and White Minstrels - yn wên a phlu a choesau i gyd. Dro arall fi fyddai'r bwerus Mrs Peel o'r Avengers, yn wynebu pa ddrwg bynnag a fyddai'n llechu rownd tro Annedd Wen, neu'n cuddio y tu ôl i'r pympiau petrol y tu allan i garej Glenys, Castle House.

Yn dair ar ddeg oed, dw i'n siwr 'mod i isio newid byd rownd y rîl: isio bod yn gariad i'r hogyn del yn form six, neu newid lle efo'r hogan oedd wedi cael côt swêd ddu a bwsts i fatsio, neu honno oedd yn canu a chwarae gitâr ar Top of the Pops neu Disc a Dawn. Mewn geiriau eraill, roedd rhywun o gwbwl heblaw fi fy hun yn gneud y tro.

Ond beth am rwan? Ai henaint hunanfodlon sy'n gyfrifol nad oes yr un wefr o gogio bach bod yn rhywun arall bellach? Er i mi drio'n galed i feddwl am rhywun i ffeirio lle efo nhw - o'r byd cyfoes ac o gyfnodau hanesyddol - fedra'i yn fy myw weld bod gan neb well bargen na'r un sy' gen i'n barod. Cyfnewid Meic, Llinos a Gruff am deulu na wn i ddim amdanyn nhw? Dim diolch!

A deud y gwir, mi faswn in fwy tebyg o ddatgan, Faswn i ddim yn newid lle efo hwnna neu honna am bensiwn' na dweud fel arall: rhai fel y fam ar y stryd yn colli'i thempar efo'i phlentyn ac yntau'n methu dallt pam, neu'r bobol od sy'n gadael i gamerâu teledu gofnodi pob agwedd o'u bywydau gwag. Na, dim diolch.

Cofiwch, dw i'n cyfadde mor braf fyddai mynd o dan groen ambell i gymeriad am amser byr, ond dim i aros. Mewn difri, dim ond isio busnesu sut mae meddwl pobl eraill yn tician ydw i. Isio gwybod, er enghraifft, a oedd Shakespeare yn sylweddoli ei fod yn cynhyrchu rhywbeth go arbennig - ynte dim od trio cael dau ben llinyn ynghyd oedd o wrth sgwennu'r holl ddramâu yna.

Methu dallt, wedyn, beth yn union oedd cymhelliad Tony Blair yn mynnu closio'n afiach at George W. pan oedd pawb call yn danbaid yn erbyn y rhyfel yn erbyn terfysgaeth'. Sut goblyn mae Wil Sam yn gallu meddwl am resi o ddywediadau ffraeth, a pham, yn hollol, mae panig llwyr yn codi i lygaid Saeson yn siopau Pwllheli pan dw i'n deud y gair bach syml diolch wrth gael fy newid. Mi fasa'n ddiddorol cael gwybod.

Ia, busnesu ... isio gwybod ... methu dallt: dyna, am wn i, yr unig reswm y ffeiriwn i le efo neb arall. Rhoi cyfle euraidd i'm chwilfrydedd am y natur ddynol gael rhwydd hynt; turio i mewn i ymennydd rhywun arall a'i ddadansoddi.

A dyna fo'r ateb wedi dod o'r diwedd! Efo pwy faswn i'n ffeirio? Efo seicolegydd.

Gwyneth Sol Owen


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy