Parti o fechgyn ieuanc o Lyn ac Eifionydd oeddem ni gyda Mair Jones Robinson yn cyfeilio i ni. Byddai Helen, ei chwaer, yn canu yn achlysurol.
Roedd Parti Arvonia eisoes wedi ei ffurfio pan ymunais i â nhw, a phan gefais wahoddiad gan Arwyn Morgan dyma neidio am y cyfle. Braint oedd cael bod yn aelod o barti a wnâi gymaint i gefnogi eisteddfodau a chymdeithasau'r fro.
Arweinydd y gân oedd y diweddar Deio Morgan, Penmorfa ac arweinydd y nosweithiau oedd Gwilym Griffiths (Plas) gyda'i adroddiadau gwych a'i storïau digri. Yr unawdwyr oedd Deio Morgan, Arwyn ei frawd, Walter, Richard, ac Eifion a fyddai'n rhoi eitemau gyda'r gitâr - a byddai Deio ac Arwyn yn canu deuawdau.
Roeddem yn brysur iawn yn cadw cyngherddau mewn neuaddau, capeli a gwestai. Un Nadolig buom yn diddanu adran leol y Lleng Brydeinig yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn a chawsom ymuno yn y wledd cyn yr adloniant. Gellwch feddwl pa mor anodd oedd canu ar ôl y ffasiwn wledda'.
Dro arall, buom yn cadw cyngerdd ym mherfeddion Môn a daeth ysgrifennydd y gymdeithas i'n cyfarfod ger y bont er mwyn ein harwain i'r pentref. Cofiodd ar y ffordd ei fod angen petrol a throdd i mewn i garej. Dilynodd pawb ohonom ef yno a gellwch ddychmygu siom gofalwr y pwmp pan welodd mai dim ond un car oedd angen petrol!
Ambell dro byddem yn cael noson ddigon anodd. Cofiaf gadw noson mewn capel yn Llaniestyn a gweld bod y piano allan o diwn. Felly dyma symud at yr organ a gweld bod honno hefyd allan o diwn ac yn gwichian. Y canlyniad fu gorfod canu'n ddigyfeiliant a chwtogi'r rhaglen.
Roedd gan Eifion gân ddigri yr hoffai ei chanu gyda'r gitâr. Rhywbeth fel hyn oedd y pennill cyntaf:
"My name is Willie Williams
I live in pen draw Llyn;
My mother and my father
Are Saeson, yes indeed."
Roedd Saeson yn sefyll allan yn y rhan yma o'r wlad yr adeg honno. Chwith meddwl!
Fe wnaethom raglen radio BBC yn Tyddyn Siôn, Rhosfawr. Ni allaf gofio cynnwys y rhaglen ond cofiaf y profiad.
Anghofia'i byth chwaith fynd am benwythnos i Birmingham i gadw cyngerdd yng Nghapel Cymraeg Suffolk Street. Rwyf bron yn siwr mai dyma oedd yr achlysur diwethaf a gafodd ei gynnal yn y capel cyn ei ddymchwel fel rhan o gynllun aildrefnu'r Bull Ring yng nghanol y ddinas. Fe fuom yn cadw gwasanaethau Sul mewn llawer i gapel, yn cynnwys Capel y Traeth a Chapel South Beach. Pwllheli, sawl tro.
Roedd eisteddfodau yng ngwaed pob un ohonom: rhaid oedd mynd i bob eisteddfod a byddem yno fel parti neu fel unigolyn. Eisteddfod y Pasg Aberdaron yn y neuadd a oedd ar dir y maes parcio presennol. Eisteddfod Sarn - a braf yw gweld neuadd newydd Sarn. Bwlchtocyn. Arthog ym Meirion. Chwilog. Dyma rai o'r eisteddfodau y byddem yn eu mynychu. Cofio hefyd cystadlu ar raglen Sêr y Siroedd gan recordio bryd hynny yn Neuadd y Penrhyn, Bangor.
Dyma enwau aelodau'r parti hyd y cofiaf hwy. Y diweddar Deio Morgan ac Arwyn ei frawd; Gwilym Griffiths Plas; y diweddar Walter (Hendre Bach); Richard neu Dic Tudweiliog fel y'i gelwir, Eifion Bont Cribin Llanmor; Myrfin ai frawd, Clifton; Guto pan pedd adref o'r môr; Now (Cwm Bach); Maldwyn Saethon, Gwilym; Emyr Robinson a minnau. Rwyf yn ymddiheuro i'r gweddill. Gwelaf eich wynebau a chofiaf hanesion amdanoch ond ni allaf gofio'ch enwau. Mae tua hanner dwsin heb eu henwi.
Dim ond braslun o hanes y parti sydd yma. Mae llawer o'r aelodau eraill yn fwy abal na fi i ddweud yr hanes. Beth am roi pin ar bapur a gwneud stori well na hon? Hefyd byddai aduniad yn syniad.
Bob Roberts