Cefais fy magu yn Sŵn y Môr, Morfa Nefyn: cartref cariadus o fewn tafliad carreg i'r traeth. Dach chi'n siŵr o gofio fy rhieni'n iawn: John a Mary Parry.Dyma fy milltir sgwâr, fy maes chwarae, lle roeddwn yn chwilio am grancod ac yn treulio hafau'n nofio, hwylio, a deifio i waelod y mor ym mae Cwt Leiffbot. Dyddiau dedwydd oedd y rhain, yng nghwmni Jennifer Ardwyn, Sandra Ben Nevis a Beryl Siop. Dyddiau hirfelyn tesog oedd yn para am byth ... gan fod yr hafau'n hirach ac yn boethach bryd hynny - neu o leia' yn teimlo felly!
Es i Ysgol Gynradd Edern gyda fy ffrind Mary Terfyn. Byddai'r ddwy ohonom yn beicio neu'n cerdded i'r ysgol yn yr haf gan sgwrsio a chasglu dail ceiniog o'r cloddiau. Roeddwn yn meddwl y byd o'm hathrawes, Mrs Griffiths, Bryn Coch Morfa Nefyn. Fe'm dysgodd i am ryfeddodau gwledydd pell, ac i fwynhau ysgrifennu storis, actio, canu a pheintio. Ond yno hefyd yr oeddwn yn cael poen bol bob dydd Gwener pan fyddai'r prifathro yn rhoi pawb mewn rhesi Mathemateg, yn ôl canlyniadau gwaith yr wythnos!! Dal y gynffon fyddwn i'n amlach na pheidio!
Anodd oedd gweld fy ffrindiau'n mynd am Ysgol Botwnnog, a finna' (oherwydd rhesymau daearyddol) yn gorfod dal bws i Bwllheli a cherdded yr allt i'r Ysgol Ramadeg. Wedi dweud hynny, cefais flynyddoedd hapus yno gydag athrawon talentog a ffrindiau llawen. Dysgodd Eric Williams, yr athro Cerdd, imi ganu unawdau a dal fy ngwynt yn y lle iawn!
Cefais gyfle i actio yn nramâu Wil Sam gyda'i frawd Elis Gwyn, a chael fy swcro i ysgrifennu gan Beti Japheth. Bu Wenna Huws, a fu farw'n llawer rhy gynnar, yn dysgu Jean Madryn Isaf a finna' i ganu deuawdau ac i gystadlu. Gwisgais sash tîm cyntaf hoci Bethan Ogwen gyda balchder, a threulio Sadyrnau gwyntog yn trio trechu genod Port a Chaernarfon mewn sgert plîts a blwmers winsiét gwyrdd!!
Treulio dyddiau gwerthfawr gyda fy Yncl Elwyn yn dysgu dreifio a cherdded, a chael te bach wedyn gyda Nan Nan. Roedd eu drws bob amser yn agored a'r peaches tun ac ideal milk gyda'r gora' yn y byd!
Gadael cartref wedyn a mynd i Goleg y Drindod Caerfyrddin i astudio Cymraeg a Drama gyda phobl fel Nora lsaac a Carwyn James. Dechrau mwynhau dysgu plant ar ymarfer dysgu yn Llandudoch, Llanelli ac Ysgol y Dderwen Caerfyrddin. Dechrau cyfansoddi caneuon i gyfeiliant medrus Hywel Evans a recordio 'Pedwar Gwynt' ym mharlwr Harri Parri a Gareth Maelor ym Mhorthmadog. Cymryd rhan yn y rhaglenni 'Disc a Dawn' ar y teledu. Teithio Cymru i ganu yng nghyngherddau'r Pinaclau Pop: dyddiau difyr iawn!
Dechrau fy swydd gyntaf wedyn fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Heol Gaer, Fflint. Mi briodais Geraint a symud i bentref gwledig y Parc ger y Bala, lle ganwyd ein genod, Lois ac Esther. Collais Mam yn ystod y cyfnod yma, ond anghofia'i fyth am garedigrwydd teulu a ffrindiau - a chefnogaeth pobl Morfa Nefyn mewn dyddiau anodd iawn.
Dechreuais ganu unwaith eto mewn cyngherddau dros Gymru a chael y cyfle i actio Mrs Noa gyda Theatr Cymru. Gweithio ar 'Codi Pais' wedyn yn HTV, a chodi aeliau'r un pryd! Teithio i Fanceinion i recordio cyfresi canu fy hun, a mwynhau pob eiliad o'r cyfnod cyffrous yma.
Dechreuodd cyfnod newydd inni fel teulu pan ddaethom i fyw i Gaerdydd. Es yn ôl i'r coleg i wneud cwrs dau ddiwrnod yr wythnos ar Gysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata. Roedd arna' i eisiau newid cyfeiriad gan 'mod i'n synhwyro na fyddai'r canu'n para am byth!
Collais Dad tua'r amser yma, ac roedd y genod yn colli Taid. Roedd o'n dipyn o gymeriad ac yn meddwl y byd o'i fro.
Treuliais gyfnod yn Adran Cysylltiadau Cyhoeddus S4C wedyn yn trefnu digwyddiadau'r sianel, yng Nghymru ac ar y Cyfandir. Swydd ddiddorol mewn cyfnod pan oedd S4C yn lledu ei hadenydd i ddenu nawdd a chefnogwyr newydd.
Ar ôl hynny dychwelyd i fyd addysg, gan fod Lois ac Esther bellach yn ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd. Dechreuais ddysgu yn Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, cyn mynd i Ysgol Castellau, y Beddau. ''It's not the winning but the taking part" oedd slogan yr ysgolion yma cyn gornestau'r Urdd! Hwyrach bod 'na wers yno i ni i gyd!
Roedd hi'n fraint cydweithio gyda rhieni brwd dros y Gymraeg oedd yn awyddus i'w plant siarad yr iaith ar ôl i genhedlaeth ei cholli yn y Cymoedd.
Erbyn hyn rwy'n gweithio fel Athrawes Ymgynghorol i Awdurdod Addysg Caerdydd. Byddaf yn darparu cyrsiau athrawon, hyfforddi, cefnogi'r ysgolion a'r athrawon ac yn paratoi adnoddau a chyfarpar. Mae'n hyfryd gweld y cynnydd a'r brwdfrydedd sydd yn ysgolion Cymraeg y brifddinas. 'Dw i'n teimlo 'mod i wedi cael y swydd ddelfrydol.
Mae fy mywyd yn llawn iawn gyda fy nheulu o'm cwmpas, a dau fachgen rhadlon, Sion Aron, gwr Esther ac Edward, partner Lois, yn cyfoethogi'r cyfan.
A sôn am swyddi ... mae gen i joban arall rŵan! Swydd hynod gyfrifol sy'n gofyn am gymwysterau go arbennig: newid clytiau, gwthio pram, cerdded parciau, canu, gwarchod a bod yn amyneddgar iawn! Ydach chi wedi dyfalu? Wel, ia siŵr iawn: dw i'n NAIN! Ydw ers mis, i Evan Wyn!
Byddaf yn edrych ymlaen at yr haf bob blwyddyn er mwyn cael aros ym Mhen Llŷn gyda fy nghyfnitherod egnïol, Gwenan, Rhian a Iola. Caf fynd am dro i fae Cwt Leiffbot a hwyrach y daw cyfle i ddangos y Cerrig Gleision go iawn i Evan Wyn.