BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Tony Blair gyda'r plantTe efo Tony
Rhagfyr 2005
Gwyliau Diolchgarwch bu Mam a fi yn Llundain am ychydig ddyddiau yn aros efo Ann a George a'r plant, Mirain ac Euryn a Pero'r ci.
Ann ydy chwaer Mam, sef Ann Tacho, Nefyn ers talwm.

Cefais wyliau da yn mynd ar yr olwyn fawr ac ati. Ond y peth mwyaf annisgwyl a ddigwyddodd oedd clywed bod Tony Blair, y Prif Weinidog o bawb, yn dod atom i Swyn y Ddinas (cartref Ann a'r teulu) i gael te ddeg.

Y rheswm am yr ymweliad annisgwyl yma oedd hyn. Bu criw o rieni a phlant y cylch yn ymgyrchu ers blynyddoedd i gael ysgol uwchradd newydd yn y dalgylch. Euryn fy nghefnder oedd un o'r plant yma.

Bore Mawrth, Hydref 25 oedd y diwrnod mawr. Wel sôn am gynnwrf: pawb yn brysur a chyffro mawr o gwmpas y tŷ a'r stryd. Am naw o'r gloch y bore hwnnw cyrhaeddodd tri swyddog diogelwch i archwilio'r tŷ a'r ardd a bu pedwar plismon ar foto beic yn mynd i fyny ac i lawr y stryd ac wedyn yno'n cadw golwg ar y stryd hyd nes cyrhaeddodd Tony Blair.

Roedd ganddo swyddog diogelwch personol ar wahân i'r lleill a buodd yntau yn y tŷ o naw o'r gloch ymlaen. Bu'n brysur drwy'r amser yn trefnu ar y ffôn i mewn ac allan o'r tŷ.

Peth arall: roedd ganddo wn ym mhoced cesail ei gôt a dyna wnaeth i ni sylweddoli dyn mor bwysig ydy Tony Blair.

Roedd yna gryn gynnwrf yng nghegin tŷ Ann hefyd: roedd criw o rieni a phlant yn dod yno i gyfarfod y dyn pwysig. Felly roedd eisiau chwilio am lestri te taclus a lliain bwrdd go neis. Mam gafodd y gwaith o wneud teisennau cri i'r criw.

Ar ôl hir aros clywsom fod ei gar ar fin cyrraedd y tu allan i'r tŷ. Aeth Mam a fi i'r llofft i dynnu ei lun o'n cyrraedd at y tŷ.

Ras lawr grisiau wedyn i weld George, Ann ac Euryn yn agor y drws iddo. I'r parlwr at y plant yr aeth o i ddechrau i gael sgwrs a thynnu lluniau.

Wedyn drwadd i'r gegin i gyfarfod y rhieni a chael sgwrs go iawn. Erbyn hyn roedd camerâu'r teledu a'r papurau newydd wedi cyrraedd. Pum munud oedden nhw'n ei gael a mynd wedyn gan fod y cyfarfod yn un preifat.

Roedd Ruth Kelly, y Gweinidog Addysg, un ochr iddo a George, tad Mirain ac Euryn yr ochr arall. Wrth yfed te - cafodd Tony Blair gwpan orau Ann - buont yn trafod polisïau addysg.

Ar ôl y cyfarfod daeth Tony Blair yn ôl i'r parlwr a dyna pryd y buodd o'n ysgwyd llaw efo Mam. 'Hello Gwyneth, pleased to meet you', oedd ei eiriau o. Trwy hyn i gyd roedd y swyddog diogelwch yn gwarchod y drws. Beth ddywedodd o wrtha i? Wel, wrth ysgwyd llaw efo mi dywedodd 'Nice hair'. Aeth wedyn yn syth i Dŷ'r Cyffredin i drafod y papur gwyn ar Addysg. Y noson honno roedd Euryn fy nghefnder ar Newyddion Deg yn sôn am y broblem o ddiffyg ysgol uwchradd iddo yn ei gylch ei hun. Yn siŵr i chi wna'i fyth anghofio'r gwyliau yma yn Llundain efo Mirain ac Euryn.

Lois, Rhydyclafdy


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy