Ond oeddech chi'n gwybod mai'r un dyn gyfansoddodd yr holl ganeuon hyn, sef J. Glyn Davies (1870-1953) - ysgolhaig, cyfansoddwr, bardd a dyn a diddordeb brwd mewn llongau model! Fflat Huw Puw yw'r gan enwocaf oll, a math o fad o Afon Lerpwl a dyfrffyrdd cyfagos oedd fflat wrth gwrs ac nid trigfan moethus ym Mae Caerdydd! Mae'n debyg mai am ei ganeuon i blant y cofir John Glyn Davies yn bennaf heddiw; yn Cerddi Huw Puw (1923), Cerddi Robin Goch (1935) a Cerddi Portinllaen (1936), cawn dalp helaeth o sbri, bwrlwm - a hiraeth - y Cymry fel morwyr yn oes y llongau hwylio. Ganed John Glyn Davies, oedd yn un o ffigyrau mwyaf amryddawn ei oes, yn Lerpwl yn 1870, lle rodd ei dad ym myd busnes; roedd hefyd yn wŷr i'r enwog John Jones, Tal-y-Sarn. Bu'n ddarlithydd a phennaeth adran Gelteg Prifysgol Lerpwl o 1907 tan 1936. Trwy ei blentyndod yn Lerpwl, a'r gwyliau a dreuliai'r teulu yn Edern, magodd diddordeb byw yn y mor a llongau. Datblygwyd y diddordeb yma ymhellach wrth iddo wneud modelau o longau i'w fab Gwion i'w hwylio pan yn blentyn a dyma'r tro cyntaf i'r modelau hyn, - rhodd gan Gwion Davies a'i weddw, i Amgueddfa Cymru, gael eu gweld yn gyhoeddus ers eu gwneud bron i ganrif yn ôl. Gellir gweld detholiad o'i gasgliad o longau model am y tro cyntaf erioed yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis trwy gydol mis Gorffennaf.
 |