Bu ymateb ardderchog i'r newyddion cyffrous wrth iddynt saethu i frig Siart C2, o flaen cewri megis Radio Luxembourg, Frizbee a Sesh MiGawn.
'Od iawn oedd ffeindio'n bod ni uwchben aelodau'r Super Furries a Gorky's yn y siart,' meddai'r prifleisydd, Twm Colt.
Recordiwyd yr albwm gyda'r cynhyrchydd profiadol, Dyl Mei, yng Ngarndolbenmaen.
'Mi gafon ni wsos llawn hwyl a sbri yn recordio yn stiwdio Blaen y Cae hefo Dyl Mei. Awyrgylch cwbl anffurfiol, heb oriau gweithio o unrhyw fath. Ma 'na ambell drac oddi ar yr albym a darwyd ar dap ym mherfeddion nos, cofiwch chi. Fel band 'dan ni'n fodlon iawn hefo'r canlyniad, er yr holl gymhlethdodau wrth drio'i rhyddhau.'
Hon yw'r ail CD i gael ei rhyddhau ar label Sbrigyn Ymborth, label mae'r basydd, Edgar Sgarled, yn rhan ohoni.
Yn ogystal mae crysau-T ar gael gyda chynnwys y clawr arnynt - clawr a arluniwyd gan Delyth Badder, sydd wedi cymryd cymaint o dalent i'w wneud a'r caneuon eu hunain.
Maent wedi bod yn brysur yn ddiweddar ar ôl cael eu dewis gan Gymdeithas yr laith fel prif fand Taith Tafod 2, gyda bandiau ac artistiaid megis Mr Huw a Yucatan yn cefnogi. Bu'r triawd, (Aled, Dafydd ac Iwan) yn teithio ledled y wlad gan ddechrau yn Ninbych, wedyn ymlaen am Borthmadog, Caerfyrddin, Bangor ac Aberystwyth, cyn gorffen y daith yng Nghaerdydd.
'Roedd y daith wedi mynd yn dda iawn ac wedi bod yn gyfle gwych i ni ledaenu'n cynulleidfa ac i hyrwyddo'r albwm,' meddai Twm Colt. 'Ac mi oedd hi'n braf cael cyfle i chwarae mewn llefydd nad oedden ni wedi chwarae o'r blaen, fel Dinbych.'
Roedd Dei Morlo'n rhy brysur i wneud sylwadau, gan ei fod yn reidio tarw rownd y rhos efo gwn yn un llaw a drymio efo'r llaw arall, tra roedd Edgar yn llwgrwobrwyo'r garej er mwyn sicrhau bod Myfanwy, y fan, yn llwyddo'i phrawf MOT. A'r albwm ei hun? Yn syml: ardderchog a gwerth ei phrynu!
Tegid Jones