Roedd y neuadd hefyd yn rhwydd lawn ar gyfer y perfformiad ychwanegol gafodd ei drefnu ar fyr rybudd ar gyfer y nos Sul canlynol. "Ym mhle," holodd rhaglen y noson, 'y crogwyd drwgweithredwyr ardal Aberdaron flynyddoedd yn ôl? Pwy fu'n cael seintwar yn eglwys Sant Hywyn? A beth fu Owain Glyndŵr yn ei wneud ym mhen draw'r byd?" Cafwyd yr atebion drwy gyfrwng sgript a chaneuon Huw Erith a Gwenda Williams, efo Nia Williams ac Alaw Tecwyn yn cyfansoddi rhai o'r alawon. Rhoddwyd sglein ar y cyfan o dan gyfarwyddyd Lowri Mererid. Mae pobol ardal Aberdaron yn falch iawn o'u hanes; mi fedran nhw fod yn falch iawn o'r presennol hefyd. "Efallai," meddai awdur y rhaglen, "y cawn weld rhywbeth tebyg eto y flwyddyn nesaf." Gobeithio'n wir - roedd hon yn noson i'w chofio.
 |