BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Nigel, Helen, Catherine, Pauline ac Avril: rhai o aelodau'r pwyllgor a staff y Ganolfan Dwristiaeth yn AbersochCanolfan Dwristiaeth Abersoch
Hydref 2007
Y swyddfa dwristaidd sydd, o bosib, yn unigryw yng Nghymru!

Geiriau, Catherine Llewelyn Morris

Anodd coelio hod Cymdeithas Dwristiaeth Abersoch a'r Cylch yn ugain oed eleni! Cyn iddi gael ei sefydlu, teimlai busnesau gosod a siopau bod dirywiad yn y diwydiant ymwelwyr yn yr ardal yma, a bod hynny'n cael effaith niweidiol ar yr economi leol.

Felly, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus, daeth nifer o fusnesau at ei gilydd i ffurfio'r Gymdeithas ac agorwyd swyddfa mewn stafell yn Neuadd Abersoch lle gallai ymwelwyr gael gwybodaeth am lefydd i aros yn yr ardal a phamffledi am lefydd i ymweld â nhw tra oedden nhw ar eu gwyliau.

Gwirfoddolwyr ac aelodau a redai'r swyddfa ar y dechrau gan ehangu o dipyn i beth i gael ffôn yno, ac wedyn staff cyflogedig.

Erbyn heddiw mae'r Ganolfan Dwristiaeth wedi tyfu ac wedi'i lleoli yn ei thrydydd lleoliad, sef i lawr ar y dde ar ôl mynd heibio i'r Post i gyfeiriad yr harbwr.

Mae hon yn swyddfa go arbennig ac yn hollol unigryw yng ngogledd Cymru ac efallai trwy Gymru gyfan!

Nid canolfan i fwcio llefydd i aros mohoni, a dydy hi ddim yn cael ei rhedeg dan ambarel unrhyw fwrdd na chyngor; yn hytrach, caiff ei rhedeg gan bwyllgor gwirfoddol gweithgar sy'n cyfarfod yn fisol, a thrwy benderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y cyfarfod blynyddol.

Caiff ei hariannu trwy dâl aelodaeth blynyddol busnesau twristiaeth sy'n hysbysebu mewn pamffledyn lliwgar ac yn y swyddfa ei hun.

Mae'r ganolfan yn hynod bwysig i'r pentref a'r ardal gan mai yma y daw ymwelwyr i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau, lletai, llwybrau cerdded, llefydd bwyta a nifer o bethau eraill.

Y swyddfa yma fydd pwyllgor Gwyl Jazz Abersoch yn ei defnyddio fel canolbwynt cysylltiadau trwy'r flwyddyn ar gyfer penwythnos jazz mis Mehefin.

Gwerthir llyfrau hanes Cymru a llyfrau cerdded yma; ceir cysylltiad â'r We i ymwelwyr ac eleni, am y tro cyntaf, cafwyd lluniau gan ffotograffwyr lleol wedi eu ffrarnio ar hyd y waliau gan greu awyrgylch liwgar.

Oes mae dros 20,000 o ymwelwyr yn ymweld â'r swyddfa bob blwyddyn, heb sôn am y galwadau ffôn ac ymholiadau ar y We.

Eleni, am y tro cyntaf yn hanes y Gymdeithas, yr ydym yn ehangu ein gorwelion, a bydd croeso i fusnesau twristiaeth - boed westy, llety hunan ddarpar neu wely a brecwast o bob rhan o Lŷn - i ymaelodi ar gyfer hysbysebu ym mhamffled 2008, cyn belled a'u bod wedi eu graddio gan gymdeithas gofrestredig.

Bydd busnesau o'r fath o fewn plwyf Llanengan heb eu gwireddu yn cael hysbysebu yn y pamffled hefyd - ond gydag amodau pendant.

Ac eto, am y tro cyntaf, cyhoeddir rhestr yn y bamffled ac yn y Ganolfan o 'Ffrindiau'r Ganolfan Dwristiaeth', sydd yn ein cefnogi trwy roi rhodd o £25, neu £75 i fusnesau.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb, mae croeso i chi ymweld â'r swyddfa unrhyw benwythnos (12:00 - 3:00) gan mai dyna pryd y mae'n agored ar hyn o bryd, neu gallwch ffonio - 01758 712929 - os byddwch am gael prisiau hysbysebu neu ffurflen aelodaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysebion 2008 yw Hydref 25ain.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy