| Ei gwobr oedd llun wedi'i gomisiynu'n arbennig
gan yr arlunydd Carys Bryn, ac yn y llun gwelwn Gwenan (ar y chwith) yn derbyn y
llun gan Carys.
Yn anffodus, dydy'r llun camera ddim yn gwneud unrhyw gyfiawnder a llun
Carys, sy'n dangos llong gyda hwyliau glas a'r geiriau yma wedi eu sgrifennu o'i blaen:
Dacw long yn hwylio'n hwylus Heibio'r trwyn ac at yr ynys; Os fy nghariad i sydd ynddi Hwyliau sidan glas sydd arni.
Daw'r geiriau o'r gan 'Tros y Mor', sef un o'r caneuon ar ail gryno ddisg Gwenan a'r un a
roddodd ei theitl iddi: 'Sidan Glas'. Cafodd y llun ei wneud yn arbennig i Gwenan felly. Cofiwch fod Tlws Einion yn cael ei roi i awdur yr erthygl orau i gael ei chyhoeddi yn y
Llanw yn ystod y flwyddyn ym marn beirniad, gyda'r wobr yn cael ei gomisiynu gan artist
lleol bob blwyddyn.
Felly, beth amdani? Anfonwch erthyglau i'r Llanw ac efallai mai chi
fydd yn cael gwaith o gelfyddyd arbennig y flwyddyn nesa!
 |