| Mae'r 'cyntaf' yn awgrymu wrth gwrs fod mwy i ddod, ac y bydd hyn yn gychwyn ar weithgaredd blynyddol. Felly roedd pawb yn sôn, beth bynnag, ar ôl cael diwrnod bendigedig o ran tywydd ac o ran brwdfrydedd hwyliog pawb fu'n cymryd rhan. Roedd y Triathlon yn golygu nofio am 400m yng Nghanolfan Hamdden Pwllheoi, beicio 12 milltir rownd Chwilog a rhedeg 3 milltir i ystad Glan Don ac yn ôl. Criw lleol, criw o ffrindiau, fu'n trefnu, yn cynnwys Terry Williams o Lithfaen, Delyth Davies o Edern, Bethan Williams Tudweiliog, Rhodri Ellis Owen o Lanbedrog ac Elgan Rowlands, athro mathamateg Ysgol Botwnnog. Meddai Pryderi ap Rhisiart, un arall o'r trefnwyr, "Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i'r fyddin o wirfoddolwyr oedd yn helpu ac yn stiwardio yn ystod y dydd." Roedd dros 50 ohonynt i'w gweld hyd y daith. Braf oedd gweld nifer o drigolion yr ardal yn gwneud yn dda ar y diwrnod, nifer rhy luosod i'w henwi. Y bwriad oedd codi arian tuag at Ymchwil y Galon, ac mae'r casglu yn dal i fynd ymlaen. Yn fuddigol yng nghategori'r dynion oedd Iwan Morton o Drefor, wedi gorffen y cwrs mewn 1 awr a 4 munud, tra bo Karen Newby (o Stockport) yn ffuddugol yng nghategori'r merched mewn amser o 1 awr a 14 munud. Wythnos ynghynt cynhaliwyd noson arbennig iawn yn y Clwb Rygbi ym Mhwllheli; Twrw Triathlon, er mwyn codi a chreu cynnwrt am y Triathlon ar y penwythno olynol. Cafwyd noson arbennig iawn yng nghwmni Geraint Lovgreen a'r Enw Da, Masters in France, Raslas Bach, Sesh mi Gawn a'r Dukes of Acid.
 |