Mae Anni'n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog a daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair yn eisteddfod yr ysgol eleni; hefyd bu'n fuddugol dan 19 oed yn Eisteddfod Llanllyfni ddechrau mis Mawrth. Ei diddordebau yw perfformio, chwarae gitâr a phiano a chwaraeon, yn enwedig hoci a gymnasteg; mae'n aelod o Glwb Gymnasteg Eryri ac yn hyfforddi bob dydd Sul ym Mhenygroes. Mae'n gobeithio dal ati i sgrifennu. Meddai'r beirniad, T Emyr Pritchard: "Mae'n trin ei thestun yn ddeheuig a thrylwyr iawn... ac mae ganddi'r gallu i fachu sylw'r darllenydd o'r dechrau a'i ddenu i ddarllen ymlaen."
Doedd dim byd syfrdanol yn y papur dyddiol nes i mi ddod ar draws llun arbennig o Kate Winslet. Llun o gylchgrawn o'r enw G.Q. oedd o, ac roedd llun Kate, un o sêr y ffilm enwog 'Titanic', ar y clawr. Roedd hi wedi colli pwysau ac yn llawer teneuach na'r Kate Winslet a fu'n troedio bwrdd y llong enwog. Roedd llun arall ohoni hefyd ac roedd hwn yn debycach i'r Kate Winslet yr oeddwn i yn ei chofio ychydig yn fwy crwn na'r sêr arferol sy'n debycach i linyn trôns na pherson iach.
Roedd yr erthygl yn honni fod Kate Winslet yn mynnu ei bod yn hapus fel ag yr oedd hi ac nad oedd hi'n bwriadu colli pwysau. Digon teg. Ond beth yw'r llun ar flaen y cylchgrawn G.Q.? Na, nid oedd hi wedi colli pwysau, nac wedi ei gwasgu ei hun i ddillad a oedd yn rhy fach. Roedd golygydd G.Q. wedi cyfaddef fod y llun wedi cael ei ailwampio'n ddigidol. Roeddent wedi gwneud Kate yn rhywun arall, yn rhywun talach a theneuach!
Er bod Kate wedi dweud ei bod hi yn hapus fel yr oedd hi, eto roedd hi wedi caniatáu'r broses o newid siâp ei chorff ar gyfrifiadur i fynd yn ei flaen. Pam tybed? A pham tybed na welwch chi berson cyffredin sydd ddim gyda chroen perffaith, na'r dannedd sytha', ar flaen cylchgrawn? Dyma'r ddelweddau sy'n cael eu lluchio atom o bob cyfeiriad. Dyma'r math o berson y mae'r cyfryngau am i ni gredu y dylem ni fod.
Mae hon yn ddelwedd beryglus iawn; mae'n peri i lawer o fechgyn a merched feddwl nad ydynt yn normal a'u bod yn amherffaith. Dyma sut y mae anorecsia a bwlimia yn dechrau. Ewch i siopa gyda chriw o ferched a phinsiwch eich hun bob tro y bydd y cwestiwn: "Ydi 'nhîn i yn fawr yn hwn?" yn cael ei lefaru. Byddwch yn gleisiau i gyd cyn cyrraedd adref!
Roedd un ferch a oedd yn dioddef o'r salwch anorecsia yn credu: "You've got to be thin to be in." Lle cafodd y syniad yna tybed? Ai dyma beth mae'r cyfryngau yn ceisio'i ddweud?
Mae anorecsia yn salwch sy'n cychwyn fel deiet colli pwysau. Mae'r claf yn bwyta llai a llai bob dydd nes yn y diwedd mae'n methu bwyta o gwbl. Os bydd yn parhau i beidio â bwyta, bydd ei organau'n methu gweithio'n iawn. Mae'n mynd yn ddim ond croen ac asgwrn yn llythrennol. Mae hi'n mynd yn broblem seicolegol yn y diwedd, oherwydd pan mae'n edrych yn y drych, nid yw'n gweld beth mae pawb arall yn ei weld: mae'n dal i weld cysgod tew.
Roedd y Dywysoges Diana yn dioddef o'r salwch bwlimia. Roedd pawb yn ei gweld hi yn berffaith: digon o bres a dillad crand a thywysog fel gwr hyd yn goed! Ond nid oedd hyn yn ddigon, mae'n rhaid, a datblygodd y salwch bwlimia arni. Roed hyn yn arwydd o'r tristwch yn ei bywyd a'r pwysau unwaith eto gan y cyfryngau i edrych ar lluniaidd a deniadol.
Salwch yw bwlimia sy'n golygu fod y claf yn gwneud ei hun yn sâl er mwyn cael gwared ar y bwyd y mae wedi ei fwyta trwy daflu i fyny. Nid merched yn unig sy'n dioddef o fwlimia ac anorecsia. Mae bechgyn yn dioddef yn yr un modd. Ysgrifennodd Owain Siôn lyfr sy'n dwyn y teitl "Bwli" am fachgen yn dioddef o'r clefyd bwlimia. Cafodd y syniad wrth fynd i weld ei ffrind Ynyr ysbyty a gweld bachgen yn dioddef o bwlimia yn y gwely nesaf nid oedd yn deall sut yr oedd hi'n bosib i fachgen ddioddef o'r salwch.
Mae bwlio yn gyffredin iawn y dyddiau yma. Yn ôl ystadegau Childline, mae rhan helaeth o'u galwadau gan blant sy'n cael eu bwlio gan blant eraill. Mae'r bwlio yn digwydd yn y rhan fwyaf o achosion oherwydd fod y plant ychydig yn wahanol: yn dew, neu'n fyr, neu dim ond am eu bod yn gwisgo sbectol neu am fod ganddynt wallt coch. Mae'r rhestr yn un faith. Ond sut fyd fuasai o petai pawb yn union yr un fath?
Nid wyf yn dweud mai ar y sêr a'r cylchgronau y mae'r bai i gyd ond nid ydynt yn helpu'r sefyllfa. Petai'r cylchgronau hyn yn rhoi pob math o bobl ar eu tudalennau, efallai y buasai'n help inni dderbyn pawb.
Nid y cylchgronau yn unig sydd ar fai chwaith: mae'r un ddelwedd yn cael ei harddangos neu ei marchnata ar y rhaglenni teledu yn ogystal. Baywatch, er enghraifft. Roedd pawb yn fanno yn denau, brown, a bronnog. Nid y sêr ar y rhaglen yn unig, ond pawb oedd ar y traeth! A hynny er bod pobl America yn cael eu cyfrif y bobl dewaf yn y byd. Os yw hynny'n wir, ble roedd yr holl bobl dew yma? Nid yw'r rhaglenni yma yn dangos trawsdoriad teg o'r gymdeithas.
Rydym i gyd yn derbyn mai hysbysebu pethau yw bwriad y cwmnïau sy'n talu i'r modelau tal a thenau yma. Ac mae arnynt eisiau'r hysbyseb orau bosib. Ond nid yw pawb yn dal a thenau fel y rhain. Mae eisiau modelau mwy cyffredin. Wedi'r cyfan, y maint mwyaf cyffredin i ferched yw 14-16, nid maint 8-10.
Felly, Kate Winslet, cym gyngor: dangos i'r byd mai merched fel ti yw'r rhai mwyaf cyffredin. Anghofia am 'luposycshion cyfrifiadurol', Er gwell neu er gwaeth, cofia fod y cyfryngau yn dylanwadu ar bawb.
Anni Llyn