| Agorwyd y wefan a'r gystadleuaeth gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn
Sioe Nefyn. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb o bob oedran. Mae angen i
gynigion gynnwys rhyw elfen o 'Harddwch Naturiol Llŷn'. Gall hyn gynnwys
golygfeydd o'r tirlun, arfordir, bywyd gwyllt, olion hanesyddol, diwylliant neu unrhyw beth sydd yn nodweddiadol o Harddwch Naturiol Llŷn.
Anfonwch eich
lluniau i mewn drwy ddilyn y linc ar: www.ahne-llyn-aonb.org.
 |