Bryn Terfel, Aled Jones, Cerys Matthews, Catrin Finch, Manic Street Preachers, Stereophonics, Tom Jones. Oes angen dweud mwy? Maent yn gerddorion o Gymru sy'n enwog ar hyd a lled y byd ac yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn frodorion o Wlad y Gân. Ydych chi'n meddwl mai cerddorion yw llysgenhadon Cymru heddiw? Erbyn diwedd yr erthygl yma dw i'n siŵr y byddwch chwithau a minnau yn medru ateb y cwestiwn uchod.
Pwy arall sy'n llysgenhadon i Gymru heddiw? Mae gennych actorion, megis Ioan Gruffudd a'i ffrind Mathew Rhys sydd yn gwneud enw iddynt eu hunain yn Hollywood ar hyn o bryd. Nid ydynt yn cuddio'r ffaith eu bod yn dod o Gymru ond yn hytrach yn ymfalchïo yn eu gwreiddiau Cymreig gan fanteisio ar bob cyfle i ddiolch i ddiwylliant Cymru am y cyfle i feithrin eu doniau ym myd actio. Cychwynnodd Ioan Gruffudd y daith anhygoel y mae'n ei dilyn ym myd ffilmiau ar lwyfan Eisteddfodau'r Urdd gan ennill ar yr unawd alaw werin ac yna cae1 rhan fel mab Reg Harris yn ein hopera sebon 'Pobol y Cwm' o 1989 hyd 1994.
Yn wir, mae Cymry yn cael y cyfle i ddangos eu doniau ar lwyfan cenedlaethol pan maent yn ifanc iawn. Catherine Zeta Jones wedyn: dyma lysgennad arall sydd gan Gymru. Mae hi'n fyd-enwog ac yn fwy na pharod i atgoffa pawb ei bod yn Gymraes o Abertawe. Priododd yng Nghymru ac mae gan ei phlant enwau Cymraeg: Dylan a Carys.
Fe symudwn ymlaen at y byd chwaraeon. Mae Colin Jackson a Ryan Giggs yn ddau sy'n enwog ac yn cydnabod eu bod yn Gymry ac y mae sawl golffiwr megis Ian Woosnam a Phillip Price yn falch o'u gwreiddiau Cymreig. A beth am chwaraewyr snwcer fel Mathew Stevens a Mark Williams? Pobol sy'n llwyddo yn eu proffesiwn ac yn falch o fod yn Gymry! Mae Mark Hughes yn enw arall sy'n adnabyddus y tu allan i Gymru ac wedi profi ei hun yn feistr ar y cae pêl-droed. Ond y cof sydd gennyf i ohono yw ei weld ar y rhaglen wych 'na. 'C'mon Midffild'! Pwy fuasai'n meddwl: dyn mor enwog a fo ar raglen Gymraeg ar S4C! Ond mae hyn yn dangos ei fod yn falch o gael dychwelyd i Gymru i rannu ei sgiliau, ac y mae wedi hyfforddi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru a gwneud gwaith reit dda.
Ond yn ôl â ni at y cwestiwn o dan sylw. Ai cerddorion yw llysgenhadon Cymru heddiw? Yr hyn a ofynnaf i mi fy hun yw: ai ysgrifennu rhestr o enwau cerddorion enwog neu rhestr o enwau actorion enwog neu rhestr o enwau pobl enwog yn y maes chwaraeon fyddai'r dasg hawsaf?
Bryn Terfel: mae pawb yn gyfarwydd a'i lais cryf ac y mae ef yn sicr yn lysgennad i Gymru ac wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth 'Canwr y Byd'. Diolch i Bryn Terfel mae Urdd Gobaith Cymru yn rhoi cyfle i berfformwyr llwyddiannus
Eisteddfod yr Urdd gystadlu am Ysgoloriaeth arbennig sy'n arwain at gyfleoedd pellach ym myd adloniant.
Gwelwyd rhaglen yn ddiweddar am Bryn Terfel yn dychwelyd at ei wreiddiau ym Mhant Glas a byrdwn y cyfweliad oedd pa mor falch ydy o o Eifionydd a'i fod yn ymhyfrydu mai gŵr o Gymru ydyw a'i fod
yn Gymro i'r carn!
Mae'n sicr yn llysgennad i Gymru fel sylfaenydd Gŵyl y Faenol a thrwy ganu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ar ei gryno ddisg newydd sydd wedi bod ar frig y siartiau clasurol. Mae'n amlwg yn mwynhau canu 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn' a 'Dafydd y Garreg Wen' law yn llaw â'r darnau operatig a gwaith cyfansoddwyr megis Handel a Schubert.
Felly hefyd Aled Jones, sef canwr c1asurol arall sy'n llysgennad i Gymru. Yn hogyn ifanc llwyddodd i ddringo i frig y siartiau yn canu'r gân 'Snowman'. Teithiodd o amgylch y byd a llwyddo i fod yn hysbyseb ardderchog i'n gwlad. Heddiw, mae'n parhau i fod yn enwog, ac yn ddiweddar mewn cyngerdd yn Llandudno yn lansio ei gryno ddisg newydd, dywedodd: 'Y cwestiwn a ofynnir i mi amlaf yw: A ydw i'n falch o fod yn Gymro? Wrth gwrs fy mod i. Cymro fydda' i am byth. Rydw i'n falch o fy ngwlad.' Pa eiriau allai fod yn fwy addas gan un sydd yn llysgennad i Gymru?
Catrin Finch. Telynores o Lanon sydd wedi rhoi Cymru ar y map yn America ac ar draws y byd gyda'i halbwm newydd ar label Sony 'Tros y Garreg'.
Honnir mai hi yw telynores ifanc orau'r byd, ac y mae hyn yn wir. Ia, merch o ganolbarth Cymru yn canu'r delyn yn well nag unrhyw un arall yn y byd - anhygoel! Yn sicr, dyma un sydd wedi llysgenhadu enw Cymru ar draws y byd, ac yn ogystal wedi rhoi delwedd newydd i'r delyn. Mae hithau yn ymfalchïo yng ngwaith cyfansoddwyr Cymreig megis John Thomas a William Mathias ac yn eu chwarae ar draws y byd ochr yn ochr a gwaith Debussy a Glinka. Llysgennad sy'n rhoi statws i gerddoriaeth glasurol gan gyfansoddwyr Cymreig.
Y mae Siân James ymysg llawer sydd wedi bod yn llysgenhadu enw Cymru gyda'r delyn draddodiadol mewn gwledydd megis Japan. Mae hithau'n rhoi delwedd bositif o'n gwlad ac yn cyflwyno ein caneuon gwerin, y traddodiadol a'r newydd, i gynulleidfaoedd rif y gwlith.
At y bandiau. Manic Street Preachers, Stereophonics, a Catatonia gynt. Wedi cario enw Cymru gyda hwy â balchder ar draws y byd. Maent yn fandiau hynod o lwyddiannus, gyda Cerys Matthews o'r band Catatonia wedi rhyddhau cryno ddisg sy'n cynnwys emynau a chaneuon gwerin. Yn fyd-enwog, daeth yn ôl i Gymru fach i deithio ar dractor i'w phriodas ac y mae hithau, fel Catherine Zeta, wedi rhoi enw Cymraeg ar ei phlentyn, sef Gwyneth.
Un arall sydd yn llysgenhadwr i Gymru ydy Tom Jones. Ia, yr un y mae merched wedi bod yn taflu eu dillad isa' ato ar draws y byd! Mae o dros 60 oed ac yn dal yr un mor fywiog ac enwog ag erioed. Canodd ddeuawd gyda Cerys Matthews, enillodd sawl gwobr a chafodd lwyth o recordiau llwyddiannus, ond er hyn i gyd mae'n dal i atgoffa ei ddilynwyr mai Cymro ydy o o'i gorun i'w sawdl. Dwy gantores arall sydd wedi chwifio baner Cymru yw Shirley Bassey ac Iris Williams ...
Mae pob un wan jac ohonom ar draws y byd yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi rhyw fath o gerddoriaeth, ond nid yw pawb yn gwerthfawrogi pêl-droed a chwaraeon. Cerddoriaeth yw'r dull mwyaf effeithiol o gyfathrebu ac oherwydd y cyfleoedd y mae Cymru yn ei roi i gerddorion, boed yn gantorion neu offerynwyr, ar lwyfannau ein gwyliau cenedlaethol, mae Cymry yn llwyddo yn y maes hwn ac, o ganlyniad, yn dod yn llysgenhadon llwyddiannus a phoblogaidd i'w gwlad! Felly, heb os nac oni bai, cerddorion yw llysgenhadon
Cymru heddiw. Cerddorion sy'n rhoi delwedd bositif o Gymru a hynny ym mhedwar ban byd. Fel y mae geiriau ein hanthem genedlaethol yn ein hatgoffa: 'Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri!'.