| Bu'n ymchwilio sut y gellir gwella hylendid yn y diwydiant tafarndai a chlybiau nos. Roedd yn ymwybodol bod tafarndai yn aml yn gorfod storio'u poteli tu allan mewn man diogel, neu mewn seler. Gall llygod mawr gael mynediad at rhain ac, er na allant gyrraedd y cynnyrch, mae eu wrin yn cario nifer o heintiau. Gall selerydd hefyd fod yn llefydd llaith lle gall llwydni dyfu ar yddfau'r poteli. Syniad trawiadol Osian yw gosod uned fechan ar bob bar. Byddai pob potel sy'n cael ei gwerthu yn cael ei rhoi yn yr uned am 10 eiliad a'i gosod o dan olau UV. Byddai hyn yn lladd unrhyw facteria heb amharu ar y cynnyrch y tu mewn i'r botel. Gellid brandio'r uned a'i wneud yn rhan trawiadol o'r bar. Mae Osian, sy'n 20 oed, yn gyn ddisgybl o Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor. Bydd yn cychwyn ar ei yrfa newydd fel athro Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol y Strade, Llanelli, fis Medi.
 |