BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Mirain Haf ar glawr y CDCD wedi llwyddiant Cân i Gymru
Ionawr 2005
Yr adeg yma llynedd roedd Huw Erith a Nia Williams o Aberdaron yn brysur yn cyfansoddi cân i gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru.
Pwy fasa'n meddwl y byddai'r bartneriaeth wedi cael blwyddyn mor llwyddiannus.

Y gamp gyntaf oedd i'r gân, Gadael, fynd trwodd i'r rownd derfynol. Yna dewiswyd Mirain Haf i ganu. Erbyn y Nadolig roedd CD o waith y ddau gyfansoddwr, gyda Mirain yn canu, ar gael yn y siopau.

Yn ôl Huw, clywed Owain Gwilym yn sôn ar ei raglen radio y byddai'n braf cael mwy o ganeuon gan Mirain, a chan yr un cyfansoddwyr, a esgorodd ar y syniad.

"Yr oedd gennym bedair cân yn cynnwys Gadael, ac yr oedd amryw wedi bod yn holi ym mhle y medrent brynu copi o honno, ond gan nad yw cynhyrchwyr Cân i Gymru yn gwerthu CD o'r caneuon nid oedd yn bosib ei phrynu yn unman. Aed i gysylltiad â Mirain a daeth i Aberdaron i glywed beth oedd ganddom i'w gynnig."

Mae'n rhaid ei bod wedi hoffi'r hyn a glywodd achos cytunodd i recordio'r caneuon. Aethant i drafod gyda chwmni Gwynfryn Cymunedol, gan feddwl gwneud demo, ond roedd y cwmni'n hoff iawn o'r caneuon ac o lais Mirain a chytunwyd i fynd ymlaen i recordio'r pedair cân, ac i Huw a Nia gyfansoddi pedair cân arall er mwyn cael yr wyth sydd ar y CD erbyn hyn.

Bu'r tri'n cydweithio ers dechrau Awst ac er bod dipyn o anawsterau, gan fod Mirain yn gweithio llawer yn Llundain, roedd y CD yn barod erbyn y Nadolig.

Y mae amrywiaeth o ganeuon o wahanol arddulliau arni megis soul, jazz, un hwiangerdd hyd yn oed, cân fywiog megis cân ddawns ac ambell faled. Y mae'r cyfan yn gymysgedd soniarus a swynol iawn a llais Mirain yn gweddu i'r dim i'r caneuon.

Gwerthwyd dros fil o gopïau o'r CD, Lle Diarth, yn barod.

Llongyfarchiadau ar eu llwyddiant. Mae hi'n amser cystadleuaeth Cân i Gymru unwaith eto (y dyddiad cau yw 19 Ionawr). 'Sgwn i a ddaw doniau Llŷn i'r amlwg eto eleni?


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy