| Mae Dwylo Prysur wedi'i gofrestru efo Mudiad Ysgolion Meithrin ac yn cynnig cyfle gwych i blant o flwydd i bedair oed.
Caiff y plant gyfle i wneud amrywiaeth o weithgareddau, megis gwaith
llaw, paentio, chwarae tŷ bach, jig-so, canu a chael stori. Mae'r rhieni'n dod efo'r plant nes
eu bod nhw'n ddwy oed ac yna mae dewis i adael y plant yn y cylch.
Derbyniodd y Cylch grant gan Arian i Bawb (y Loteri) a Mantell Gwynedd i brynu offer ac adnoddau i sefydlu'r fenter.
Cynhelir y sesiynau ar fore Mawrth a bore Iau yng Nghanolfan Llaniestyn, rhwng 9.15 yb - 11.15 yb. Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru plentyn, ffoniwch Eifiona Roberts ar (01758) 730604.
 |