| Dangosodd Carol ddiddordeb ar ôl derbyn nodyn o'r ysgol yn gwahodd plant i fod yn llawforynion a macwyaid a chan fod ganddi ddiddordeb mawr yng ngweithgareddau'r Eisteddfod, roedd yn ddewis naturiol. Hi fydd yn cario'r Corn Hirlas yn seremoniau'r Orsedd. Mae'r paratoadau at yr Eisteddfod yn mynd rhagddynt bellach gyda chantorion wedi cychwyn ymarfer bob nos Wener ar gyfer Côr yr Eisteddfod. Maent ar hyn o bryd yn ymarfer ar gyfer y Gymanfa ar 27 Mehefin, fel rhan o ddathliadau'r Cyhoeddi. Hefyd derbyniodd amryw o fudiadau lleol wahoddiad i ymuno ar orymdaith, fydd yn rhan o'r Seremoni Gyhoeddi yng Nghaernarfon ar 26 Mehefin.
 |