| Fe adeiladwyd Oriel Plas Glyn-y-Weddw 'nôl yn 1857 fel tŷ gweddw i'r Fonesig Elizabeth Jones Parry o Stad Madryn, ac o'r cychwyn cyntaf roedd y tŷ yn gartref i gasgliad drudfawr o waith celf. Yn 1896 fe brynwyd y Plas gan ŵr busnes llwyddiannus o Gaerdydd o'r enw Solomon Andrews. Agorodd y drysau i'r cyhoedd am y tro cyntaf a throi yr adeilad yn oriel gelf gyhoeddus boblogaidd dros ben. Yn ystod y ganrif olynol bu i'r adeilad brofi nifer o newidiadau a buasai wedi troi'n adfail yn ystod ei chwarter olaf pe bai heb gael ei achub gan yr arlunwraig Gwyneth ap Tomos a'i gŵr Dafydd. Yn 1997 bu i Gyfeillion y Plas brynu'r oriel gydag arian loteri ac ers degawd bellach mae'r adeilad yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Elusennol. Rydym felly yn 2007 yn dathlu ein degawd cyntaf fel rheolwyr y Plas a chan mlynedd a hanner ers adeiladu'r plasty. I nodi'r achlysur rydym yn cyflwyno arddangosfa dan y teitl 'Arddangosfa ISO' lle mae gwaith rhai o brif artistiaid cyfoes Cymru yn cael ei arddangos ynghyd a dwy arddangosfa adolygol go sbesial! Mae Arddangosfa Adolygol Kyffin Williams yn cyflwyno gwaith na welwyd mohono yn gyhoeddus o'r blaen. Mae'r arddangosfa yma o waith Syr Kyffin yn gyfle i ni ym Mhlas Glyn-y-Weddw ddiolch am yr holl gyfraniadau gwerthfawr a wnaethpwyd gan y diweddar Kyffin Williams i'r oriel ac i'r byd celf yn gyffredinol. Mae yr ail Arddangosfa Adolygol yn cynnwys gwaith o gasgliadau preifat a gynhyrchwyd gan Gwyneth ap Tomos. Oni bai am gyfraniad Gwyneth a'i gŵr Dafydd ni fyddai Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn bodoli heddiw.
 |