Llongyfarchiadau mawr iddo ar ennill ei gadair gyntaf. Yn wir, hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu ar wahân i un waith pryd yr anfonodd gerddi i Eisteddfod y Wladfa Patagonia.
Fe ddaeth y Steddfod honno ac mi basiodd a chlywodd o ddim. Cymrodd yn ganiataol nad oedd wedi ennill, ond mewn hir a hwyr cafodd llythyr yn ymddiheuro'n arw oherwydd diffygion yn y gwasanaeth post - doedd ei waith ddim wedi cyrraedd i'r gystadleuaeth o gwbl.
Cyfres o gerddi caeth ar y thema 'Cysur' oedd y gwaith a luniodd at Eisteddfod Chwilog. Mae Gareth yn cyfaddef ei bod hi'n ben set arno'n gallu gorffen dwy o'r cerddi ac iddynt ddod yn sydyn yn y diwedd ar ddechrau'r flwyddyn. Diddorol iddo ef oedd gweld mai'r ddwy honno a farnai Tudur Dylan, y beirniad, oedd y ddwy gerdd orau yn y casgliad.
Meddai Gareth, 'Mae dau berson yr hoffwn dalu teyrnged iddyn nhw, sef Dic Goodman, a'm ysbrydolodd ac a ddysgodd i mi gynganeddu pan o'n i'n 30 oed. Yr ail ydi Twm Morus, sy'n dal i gynnal nosweithiau cynganeddu yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy, ers pum mlynedd bellach. Dyna lle bydda i'n mynd ac mae'r ddisgyblaeth o orfod gwneud rhywbeth ar gyfer y noson yn fy ngorfodi i ymarfer y grefft.'
Mae yn awyddus hefyd i dalu teyrnged i Llew, Rhosfawr, a luniodd y gadair.
'Cadair fach ydi hi, ond mae ei chrefftwaith yn wych. Mae'r wyrion wrth eu boddau efo hi.'
Heddiw Chwilog, fory'r Genedlaethol. Dal ati, Gareth!
 |