BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Siân Eirian Rees DaviesYr Urdd a'r Ffermwyr Ifanc
Mehefin 2004
Rhwng Eisteddfod yr Urdd a Rali'r Ffermwyr Ifanc, mi fu'r mis diwethaf yn un prysur iawn i'r criw ifanc.
Rhwng y cystadlu a fu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd ym Môn, a'r cystadlaethau llenyddol a chelf a chrefft, roedd enwau adrannau pentrefi ac ysgolion Llŷn i'w clywed yn cael eu crybwyll yn aml iawn.

Mae coron yr eisteddfod wedi dod i Lŷn droeon dros y blynyddoedd, a mi oedd hi'n bleser gweld y wen ar wyneb Siân Eirian ar lwyfan y steddfod wrth iddi hithau gael ei choroni.

Mae'n rhaid tynnu sylw at gamp Guto Dafydd o Drefor. Mae Guto yn ddisgybl pedair ar ddeg oed o Ysgol Glan-y-Môr ddaeth yn ail yn yr un gystadleuaeth. Mae'n bosib iawn na fydd yn rhaid i ni aros yn hir cyn y daw'r goron yn ôl i'r ardal unwaith eto.

Ym maes celf a chrefft roedd Ysgol Hafod Lon yn amlwg iawn eleni eto, yn ogystal ag adrannau Abererch, Aberdaron a'r Rhiw, Morfa Nefyn, Rhydyclafdy, Tudweiliog, Gwrtheyrn, Coleg Meirion Dwyfor ac Aelwyd Chwilog. Da oedd gweld enwau Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor mor amlwg eleni eto yn ogystal ag Ysgol Glan-y-Môr, ac adrannau Morfa Nefyn, Pentreuchaf ac Edern.

Ar lwyfan yr eisteddfod, cafodd Adran Botwnnog gryn lwyddiant, yn ogystal a Morfa Nefyn lwyddodd i ennill gyda'u cân actol am yr ail flwyddyn yn olynol. Daeth gwobrau hefyd i adrannau Mynytho, YsgolHafod Lon, Aberdaron a Rhiw ac Aelwyd Chwilog.

Mae rhestr lawn o'r rhai fu'n llwyddiannus ar lwyfan yr eisteddfod a gyda'r cystadlaethau cartref a chelf, dylunio a thechnoleg yn ogystal a lluniau i'w gweld ar dudalen 27. Llongyfarchiadau i bawb fu'n cystadlu, gan gynnwys y rhai nad yw eu henwau ymhlith yr enillwyr.

Yn Rali'r clybiau yng Nglynllifon bu aelodau clybiau'r Rhiw, Porthdinllaen a Godre'r Eifl yn brysur iawn. Enillodd clwb Porthdinllaen Gwpan Gwynedd Tractors ar gyfer y clwb gyda'r mwyaf o farciau o'r 5 clwb lleiaf, yn ogystal a Chwpan Mic ar y Meic ar gyfer dawnsio disgo.

Roedd aelodau o'r tri chlwb ymhlith y tri uchaf mewn nifer o gystadlaethau, yn amrywio o farnu Gwartheg Duon Cymreig i Ffotograffiaeth, o Wau a Chrosio i Goedwigaeth, ac o Dreialon Cŵn Defaid i Ymladd Clustogau. Unwaith eto, llongyfarchiadau i bawb a fu'n cystadlu.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy