| Daethant yn drydydd trwy Brydain - dim ond tri chanfed o eiliad oedd rhyngddyn nhw a'r enillwyr.
Pwrpas y gystadleuaeth oedd cynllunio, profi a rasio model pren o gar Fformiwla 1. Am yr ail flwyddyn yn olynol, daeth y tîm yn fuddugol trwy ogledd Cymru gan ennill yr hawl iddyn nhw gystadlu yn Birmingham yn erbyn rhanbarthau eraill o wledydd Prydain. Yr athro a fu'n goruchwylio'r prosiect yw Mr Gwyn Meirion Jones, athro Ffiseg a Phennaeth Cyfadran Gwyddoniaeth yr ysgol. 'Mae'r cynllun wedi bod yn help mawr i ddysgu am aerodynameg a ffrithiant,' yn ôl Gwyn Meirion Jones. 'Mi ddaeth y llwyddiant yn sgil gwaith caled efo'r disgyblion ar ôl oriau ysgol Roedd hi'n help mawr eleni ein bod ni wedi cael noddwyr, a drwy hynny mi lwyddon ni i brynu twnnel gwynt oedd yn gymorth mawr yn y broses cynllunio. 'Diolch yn fawr i siop Sbardun, Pwllheli, Carl Kammerling International a David McLean am eu cefnogaeth.'
 |