| Ar ôl bwrlwm yr haf go iawn, prysurdeb y bobl ddiarth, y glaw yn peri anobaith, pawb yn ôl yn y tresi - a dyma'r haul allan. Diwrnodau braf, dim yn rhy boeth, ac yn codi calon rhywun cyn y gaeaf. Pa amser gwell i drefnu cylchdeithiau cerdded o gwmpas Llyn. Mae Uned Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llyn wedi trefnu cyfres o deithiau cerdded ar gyfer Medi a Hydref.
Mae dwy eisoes wedi bod - un yn
ardal Clynnog a'r llall y Sadwrn diwethaf o gwmpas Mynytho. Dydd Sadwrn arweinwyd bron i 40 o gerddwyr dros fynydd Foel Gron gan gyda Bleddyn Jones a Lea Hughes gyda John Dilwyn Williams yn adrodd hanesion diddorol wrth fynd.
Adroddodd am gau tiroedd comin, yr ystadau, yr elusendai oedd unwaith ar y comin, enwau diddorol yr ardal gan gynnwys Gwinllan y Sarff a Ffynnon Sarff. Aeth y daith yn ei blaen i Gapel Newydd, Nanhoron, lle rhoddwyd sgwrs gan John Dilwyn. Dyma'r capel anghydffurfiol cyntaf yng ngogledd Cymru.
Mae bellach yn adeilad cofrestredig gradd 1 ac yng ngofal ymddiriedolaeth.
Adeiladwyd ar dir Lewis Williams, Gwag y Noe yn 1769.
Roedd Catherine Edwards o deulu Nanhoron yn un o ffyddloniaid y capel, ond yn groes i'r gred yn gyffredin, nid y hi fu'n gyfrifol am ei adeiladu. Cynhelir y daith olaf ar ddydd Sadwrn, 3 Hydref, lle bydd y daith yn dilyn y llwybr arfordir oddi amgylch arda1 Aberdaron, lle bydd cyfle i ddysgu ychydig am hanes yr ardal gydag ychydig o wybodaeth am y llwybr arfordirol.
Cyfarfod y tu allan i Dŷ Newydd Aberdaron am 10.30am.
 |