Fel y sylweddola pawb o ddarllenwyr Y Llanw', mae'n rhaid imi gyfansoddi fy erthygl fisol cyn diwedd y mis cynt. Felly, a minnau'n sgrifennu hyn o lith, nid yw hi eto yn ddiwedd Ionawr 2003. Pan wêl fy ngeiriau olau dydd, tybed a fydd y rhyfel a fawr ofnwn gan Bush a Blair yn erbyn Irac wedi cychwyn? Gobeithio na fydd - ond rwy'n sicr y bydd, o leiaf, yr holl sôn a'r bygwth yn dal yn eu hanterth. Da oedd gweld bod y gwrthwynebiad yn dal i gryfhau, yr ochr draw i Gefnfor Iwerydd yn ogystal â'r ochr hon. Gwell fyth, i'm tyb i, oedd gweld hyd yn oed rhengoedd y Blaid Lafur yn troi yn erbyn rhyfela, nes i Tony Blair orfod cymryd sylw ohonynt. Ond a yw Blair wedi ei gael ei hunan i gornel, ac nad oes modd mwyach iddo ddianc or gornel honno?
Yr hyn na fedraf mo'i ddeall o gwbwl yw : pam mai dim ond ein Prif Weinidog ni, ac nid arweinyddion Ffrainc, a Rwsia ar Almaen a Tsieina, a gwladwriaethu pwerus eraill, sydd mor frwd dros fynd i ryfel, a bod yn gi bach i George W. Bush ym mhob sefyllfa bosibl? Mae myth "'Y Berthynas Arbennig" rhwng Prydain ag America wedi'i hen chwalu, o leiaf o du America - a dim ond safbwynt Washington sy'n bwysig yn hyn o beth. Nid yw barn Blair yn cyfrif dim yng nghoridorau grym y Ty Gwyn.
Iwerddon a Chymru
Fe garwn i ystyried dwy wlad fach : Iwerddon a Chymru.Nid oes unrhyw bwysau ar Iwerddon, fel gwladwriaeth annibynnol, i wario'r un geiniog nac i aberthu'r un milwr ar helynt Irac. Mae ganddynt dragwyddol heol i gadw draw o'r cyfan. A does neb yn darogan bod y Gwyddelod mewn perygl o ymosodiad yn erbyn eu pobl gan frawychwyr ffwndamentalaidd Osama Bin Laden na neb arall.
Nid oes sôn am arfau cemegol na biolegol yn Iwerddon. Ond, yn wahanol iawn, yma yng Nghymru mae sôn bob dydd am fesurau diolgelwch yn erbyn rhyw fygythiad neu'i gilydd. Cafwyd hanes yn ddiweddar am fasnachwr o Ddinbych yn gwneud elw mawr trwy werthu mygydau nwy i drigolion hygoelus Dyffryn Clwyd. Waeth i chi Donald Rumsfeld, sydd wedi gwneud biliynau trwy werthu arfau i - ymhlith gwledydd eraill - Irac.
Mae gwyr ifainc Cymru wedi marw, yn ysglyfaeth tân, ym mhob rhyfel a gynhaliodd brenhinoedd a llywodraethau Lloegr byth ers Brwydr Agincourt ym 1415, a enillwyd i'r brenin Harri V gan ddewrder (a gwaed) bwa-saethwyr o Gymry. Enillwyd 11 VC gan Gymry ym mrwydr Rourkes Drift yn Ne Affrica: ond pa les fu hi i Gymru eu bod yno o gwbl?
Yr un modd, collodd niferoedd o Gymry eu bywydau yn rhyfel Margaret Thatcher yn Ynysoedd Malfin: ac i beth? I alluogi'r ynyswyr i barhau i siarad Saesneg i chwifio Jac yr Undeb, ac i foduro ar yr ochr chwith?
Rhyddid i Gymru a'r Alban.
Yr unig ffordd i osgoi cael ein tynnu i mewn dros ein pen a'n clustiau i unrhyw ryfel yn erbyn Saddam Hussein yw i Gymru a'r Alban fedru tynnu allan yn gyfan gwbl o'r Deyrnas Gyfunol, gan adael Lloegr i gyflawni ei gwaith budr drosti'i hun, os mynn. Haws dweud na gwneud, wrth gwrs. Ond onid yw hi'n hen bryd inni ddweud yn glir ein bod wedi hen syrffedu ar gael ein tynnu i mewn i ryfeloedd pobl eraill? Ac fe fu o leiaf 30 rhyfel ers diwedd yr Ail Ryfel Byd - yr unig un nas tynnwyd ni iddo oedd Fiet-nam.
Yn wyneb eu perfformiadau a'u hebychiadau rhyfelgar fel prif weinidogion, rwy'n mawr ddrwgdybio, pe bai Margaret Thatcher neu Tony Blair yn Nymbar Ten ar y pryd, y byddem wedi'n hyrddio at ein clustiau i Fiet-nam hefyd.
Nid oes dim sy'n rhyfedd nac yn anarferol mewn gwlad sy'n llwyddo i dorri'n rhydd oddi wrth wladwriaeth fwy. Beth am yr Undeb Sofietaidd gynt? Ymhlith eraill, llwyddodd Latfia, Lithwania ac Estonia i ymryddhau. Ac mae'r rheini yn wledydd o tua'r un faint â Chymru, mewn arwynebedd a phoblogaeth. Yn wir, mae Estonia gryn dipyn yn llai.
Y wlad gyfoethocaf a mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyfan heddiw, meddir, yw Lwcsembwrg, sydd o'r un maintioli â Sir Gwent yng Nghymru. Yn ôl Syr Max Hastings, cyn-olygydd y Daily Telegraph, ym 1946 yr oedd 74 o wledydd annibynnol yn y byd - ac yn aelodau o'r Cenhedloedd Unedig - ac erbyn 1995 yr oedd y ffigwr wedi cynyddu i 192. Cynnydd o dros ddwywaith a hanner. Felly, y norm, ac nid yr eithriad- yw i wledydd bychain gael eu hawliau a'u deisyfiadau.
Ar y cei yn ninas Corc, Iwerddon, mae cofgolofn i'r Rhyfel Mawr. Arno ymddengys y geiriau, am y meirwon : Buont yn ymladd dros ryddid i wledydd bychain. Ychwanegwyd mewn paent du : -ac eithrio Iwerddon. A oes raid dweud mwy?
Yn y dyddiau hyn, un wlad sy'n gofyn am ei rhyddid oddi wrth Denmarc - yw Gronland (Kalaallit Nunaat yn iaith y brodorion, sef pobl yr Inuit.) Os edrychwch chi ar y map, fe welwch ei bod naw gwaith arwynebedd yr ynysoedd hyn, ac y byddai Cymru yn diflannu o'i mewn ddwsinau o weithiau. Mewn termau cyfandirol, mae hi rhwng hanner a thri chwarter arwynebedd yr Undeb Ewropeaidd.
Ond beth am ei phoblogaeth? Erbyn gweld, nid yw hwnnw ond yn 39,000, neu rhywbeth tebyg i Ynys Môn. Ac mae hynny yn gadael talp aruthrol o anferth o diriogaeth heb neb yn byw ynddo - am reswm da. Mae'r rhan fwyaf o'r tir yn anialdir bythol o rew ac eira.
Mae yno faes awyr milwrol Americanaidd, yn y gogledd eithaf, yn Thule (ynganer : Tw-le; eithr "Qaanaaq" a ddywed yr Inuit.)
Eisiau cael gwared ar yr Americanwyr y mae'r Inuit, rhag iddynt gael eu tynnu i mewn i unrhyw ysgarmesoedd rhwng yr Unol Daleithau a gelynion amryfal George Bush. Medraf ddeall eu teimladau.
Pwy yw yr Inuit?
Pwy yw pobl yr Inuit, ynteu? Fe glywsom amdanyn nhw yn yr ysgol, dan yr enw Esgimo, neu ys dywed y Canadiaid Ffrengig: Esquimaux. Ni chaniateir defnyddio'r enw hwnnw bellach, dim mwy nag y cewch chi ddweud Indiaid am yr Americanwyr brodorol na Negroaid am yr Affro Americaniaid. "Cywirdeb gwleidyddol" y gelwir peth felly. Sut bynnag, mae llawer iawn mwy o'r Inuit yn byw yng ngogledd Canada, ac maen nhw'n gwylio pob datblygiad tuag annibyniaeth yn Gronland â diddordeb mawr, medrwch fentro.
Meddiannwyd Gronland gan Norwy ym 1261, a thrachefn gan Ddenmarc ym 1814. Fe gawsant ymreolaeth ym 1979 (yr union flwyddyn y gwrthodwyd ymreolaeth gan Gymru a'r Alban); ond bellach maent â'u llygaid ar annibyniaeth, a rydd, yn eu tyb hwy, lawer mwy o fanteision iddynt. A beth os llwyddant i rwystro America rhag datblygu'r cyfleusterau "amddiffyn" yn Thule? Wel, fe gyhoeddodd Geoffrey Hoon, ein Hysgrifennydd Amddiffyn "ni", rhyw bythefnos yn ôl, y bydd tragwyddol heol i Bush a'i bobl wneud a fynnant yn Fylingdales, Swydd Efrog.
Medrwn i gyd gysgu'n dawelach y nos ar ôl cael gwybod hynna!
Robin Léwis (Robyn Llyn)