Roedd Twm yn bump ar hugain oed, ac yn wreiddiol o Gilan, ond ym 1945 roedd o yng ngwersyll y fyddin yn Abergwaun. Ychydig fisoedd ynghynt roedd o wedi cael ei glwyfo yn Antwerp yng Ngwlad Belg a'i hedfan i Gaerdydd i gael tynnu bwled o'i asennau! Un ar hugain oed oedd Katie, ac roedd hi'n byw yn Sarn Bach ac yn gwasanaethu efo'r lluoedd arfog ym Mhenrhos.Wedi'r seremoni dyma'i hel hi am Gaernarfon am eu mis mêl, a thrip i Landudno! Ymhen yr wythnos roedd Twm yn ei ôl yn Abergwaun. Ond wedi'r rhyfel dyma wneud nyth ym Mhensarn, Sarn Bach a Twm yn gweithio fel saer.
Ymhen pum mlynedd mi ddaru nhw symud i Fur Cwpwl, Cilan, ffermdy bychan a rhyw 14 erw o dir. Roedd Twm yn codi am bedwar i odro ac wedyn yn ei chychwyn hi am Butlins lle roedd o'n gwneud gwaith coed. Adra wedyn - a godro, gofalu am y defaid, y moch a'r ieir cyn mynd i glwydo.
Brinley oedd y plentyn cyntaf, wedyn Rhian, yna Lilwen, a Judy oedd bach y nyth.
Mi fuon nhw'n byw ym Mur Cwpwl am saith mlynedd ar hugain ac wedyn symud i fyw i Dy'n Pwll yn Llanbedrog lle yr ymddeolodd Twm ugain mlynedd yn ôl. Yno roeddan nhw'n dathlu eu priodas ddiemwnt yn ddiweddar yng nghwmni llu o deulu a ffrindiau a llond gwlad o gardiau, gan gynnwys un gan rywun a'r cyfenw Windsor tua Llundain 'na!
Yn ogystal â'r pedwar plentyn mae ganddyn nhw bedwar ar ddeg o wyrion ac ugain o or-wyrion, ac mae Katie wedi cofnodi pob digwyddiad, bach a mawr, yn hanes y teulu a'r fro, bob dydd yn ei dyddiaduron ers 1958.
Stori syml a hapus, meddach chi, ond mae yna fwy, llawer mwy, i'r stori hon, a dyna sy'n ei gwneud yn unigryw.
Ar Chwefror y trydydd 1973, diwrnod sych a braf, mi gerddodd eu merch Lilwen i fyny'r grisiau i Gapel Cilan i wneud yr un adduned i Stanley ag y gwnaeth ei rhieni i'w gilydd, union wyth mlynedd ar hugain ynghynt! Mi ddaru nhw fentro dipyn bach pellach ar eu mis mêl, i'r Amwythig!
Roedd y ddau yn gweithio gyda'r heddlu, a dyma symud i Riwabon ac wedyn i Ruthun, lle maen nhw'n dal i fyw. Mi gawson nhw ddwy ferch, Caren a Delyth.
Ar Chwefror y trydydd 2001,diwrnod sych a braf, ac union wyth mlynedd ar hugain wedyn, mi gerddodd Delyth i fyny grisiau Capel Tabemacl, Rhuthun, i addunedu - fel ei rhieni a'i thaid a'i nain o'i blaen - i fod yn ffyddlon i Steffan. Ond fe aethon nhw ymhellach eto ar eu mis mêl, i Efrog Newydd a San Francisco!
Erbyn hyn mae ganddyn nhw eneth fach, Beca Mair, sy'n bum mis oed. Tybed beth fydd hi'n ei wneud ar Chwefror y trydydd 2029?
Alun Rhys