Does dim modd troi'r cloc yn ôl meddan nhw, ond am gyfnod byr ar y Sadwrn cyntaf o Hydref eleni roedd yn teimlo fel petaem wedi llwyddo i wneud yr amhosib. Fy ymateb cyntaf pan welais hysbyseb ddigon disylw yn Y Llanw bron i flwyddyn yn ôl, 'Oeddech chi'n un o'r rhai gerddodd i fyny'r allt i'r Ysgol Ramadeg ddeugain mlynedd yn ôl' oedd twt-twtian a meddwl ei fod ar gyfer rhywun llawer hyn na rni! Yna gydag andros o sioc dyma weld y dyddiad, 1967, a sylweddoli mai fy mlwyddyn i oedd hi.
Elen Glanerch oedd wedi cael y weledigaeth o gael aduniad deugain mlynedd ac iddi hi mae'r clod am weithio mor galed i droi'r freuddwyd yn wir. Roedd 97 o ddisgyblion yn ein blwyddyn ni a thrwy wyrth yr e-bost gan fwyaf, llwyddodd Elen i gysylltu â bron pob un ohonynt i'w hysbysu o'r bwriad i ni gyd gyfarfod unwaith eto.
Dydd Sadwrn cyntaf Hydref oedd y dyddiad y penwyd arno a llwyddodd 60 i wneud y daith yn ôl i Lŷn y bwrw Sul hwnnw. Daeth rhai o bellafoedd daear fel Nicky o Vancouver, Carol (Kroonstad) o Johannesburg, Ann (Twin) o Dubai a Karen o Frwsel.
Roedd eraill wedi teithio o bob cwr o Gymru a Lloegr ond roedd pawb yn gytun ei bod yn daith gwerth ei gwneud.
Y Nanhoron yn Nefyn oedd canolbwynt yr aduniad gan mai dwy o'r flwyddyn, Linda Rees a Menna Ward, yw'r perchnogion. Nid swper yn unig oedd ar y gweill chwaith ond yn hytrach cyfarfod am ginio bach yna mynd am dro i Borthdinllaen, ble daeth dwy o'n cyn-athrawon i'n cyfarfod, Mrs Louise Tallis a Miss Ann Owen, yna'n ôl am de ac ailgyfarfod am swper mawr yn ystod y gyda'r nos.
Roedd y tywydd o'n plaid. Roedd hi'n un o'r Sadyrnau hynny pan oedd Llŷn ar ei gorau, awyr las ddigwmwl, y môr yn wincio hyd at y gorwel pell a'r Eifl yn dangos pob carreg yn glir. Ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Morfa Nefyn roedd y mwyafrif yn cyfarfod i gychwyn ar y daith gerdded.
Fy nheimlad i wrth gyrchu yno oedd be ar y ddaear fuasai gen i i'w ddweud wrth bobl mor ddiarth, a'r boen a fuaswn i'n eu hadnabod, neu'n waeth byth fuasen nhw'n fy adnabod i!
Profiad rhyfedd oedd cyfarfod rhai am y tro cyntaf ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Edrych ... distawrwydd am eiliad ... yna wrth i ni adnabod ein gilydd, sgrech.
Pnawn a noson felly fuodd hi. Doedd dim rhaid poeni am y sgwrs; roedd honno'n llifo fel afon a rhywun yn teimlo nad oedd ond fel ddoe er pan welsom ein gilydd ddiwethaf.
Yn ffodus, roedd gennym i gyd fathodyn enw ac felly os nad oeddech yn rhy siwr roedd modd cael cip slei ar hwnnw.
Roedd yr atgofion a'r chwerthin yn heintus. Hanes Glenys Iocws yn rhoi gormod o ficarb yn ei cheg mewn arbrawf Gwyddoniaeth, criw yn cuddio yn lle mynd i'r gawod ar ôl y wers chwaraeon, un arall o'r genod wedi cadw'n rhy agos i'r bynsen byrner a sinjo'i gwallt. Roedd gan bawb ei stori a ninna'n g'lana'n chwerthin wrth neidio o un atgof i 'r llall.
Diddorol hefyd oedd y wybodaeth a'r lluniau a gasglodd Gwerfyl gan y rhai oedd yn methu bod yn bresennol, rhai fel Janice Jones sy'n delynores yn Awstralia, Susan Lane sy'n byw yn Tasmania a Ceridwen Price yn byw yng nghanol Ffrainc. Yn ogystal roedd tri llun hir o'r ysgol gyfan yn ystod ein cyfnod yno ac ambell i lun personol o'r chweched dosbarth.
Cawsom ein sobri hefyd wrth ddarllen teyrngedau i'r pedwar o'n mysg sydd wedi marw, Ann Pierce Jones, Helen Jones, Glyn Owen a Haf Parry.
Bu'n ddiwrnod gwerth chweil, a do, mi fu ond y dim i ni lwyddo i droi'r cloc yn ôl. Wrth i'r noson ddirwyn i ben allai rhywun ddim llai na theimlo rhyw dristwch wrth ystyried a fydd cyfle am aduniad eto, pwy fydd yno a faint fyddwn ni wedi heneiddio erbyn hynny.
Hei lwc y bydd cyfle, ac ew, os bydd o chwarter cystal a hwn rni fydd yn werth gwneud yr ymdrech i fod yno.