Mi es i i Ysgol Ramadeg Pwllheli ac, ar ôl y newid, i Ysgol Glan y Môr. Wedyn mi es i i Goleg Polytechnig Lerpwl, ond doeddwn i ddim yn academaidd iawn ac mi adewais i cyn gorffen y cwrs. Cefais waith mewn lloches nos yn Lerpwl a threuliais ddau haf yn gweithio efo ieuenctid ar y cynllun Camp America heb fod yrnhell o Shenandoah Valley, Virginia. Bodiais a theithiais ar y bysiau Greyhound o gwmpas America. Bûm yn gweithio ar kibbutz yn Israel hefyd, yn gyrru tractor oedd yn symud peipiau i ddyfrio'r tir ar gyfer cynhyrchu cotwm. Yn ystod 1982, roedd y kibbutz lle'r oeddwn i'n gweithio yn y ffrynt lein pan ddaeth hi'n rhyfel. Roedd rhaid rhedeg yn gyflym am loches pan oedd y rocedi yn tywallt i lawr o'r awyr!
Ers sbelan go hir erbyn hyn, rwyf yn byw yn Llundain ac yn gwneud gwaith cymdeithasol. Ym maes afiechyd meddwl ydw i'n gweithio yn bennaf, a hynny trwy asiantaeth. Fel hyn rwyf yn cael
gwneud gwaith dw i'n fwynhau a hefyd yn cael y rhyddid i fynd i deithio - ac rwyf wedi mwynhau cymaint o anturiaethau!
Cerddais trwy Ddwyrain Ewrop yn 1985 pan oedd y Llen Haearn yn dal mewn grym. Wrth groesi'r ffin o Wlad Pŵyl i Tsiecoslofacia, mi es i heibio i gonfois o filwyr o'r Undeb Sofietaidd oedd yn barod i symud i mewn i Wlad Pŵyl. Dro arall, mi ymwelais â Nicaragua yn ystod y rhyfel cartref rhwng y Sandinistas a'r Contras. Ar adegau roedd angen teithio mewn confoi i gadw'n saff. Ymwelais ag Islas de Maiz (ynys y gwenith), ynys dlawd gyda thraethau bendigedig. Pysgota cimychiaid oedd prif ddiwydiant yr ynys. Ro'n i'n cael wyau i frecwast, chwilio am goconyts i'w bwyta yn ystod y dydd - a chael cimwch i swper. Roedd y bobol leol yn licio gwrando ar fiwsig Country and Western!
Croesais y Darien, ardal o jyngl rhwng Panama a Columbia. Cerddais y llwybr a ddefnyddiwyd gan yr Indiaid. Mewn rhai mannau roedd rhaid rhydio afonydd ac mewn mannau eraill dal cwch modur. Cymerodd chwe diwrnod i mi groesi, ac ar ôl cyrraedd y dref gyntaf yn Columbia roedd rhaid i mi gael hyd i orsaf yr heddlu 'et' mwyn cael stamp ar fy mhasbort achos doedd hi ddim yn bosib gwneud hynny wrth groesi'r ffin yn y jyngl! Teithiais i lawr yr afon Congo, yn Zaire fel y'i gelwid gynt, a chymerodd y cwch ddeuddeng niwrnod i wneud y siwrna. Wrth deithio i lawr vr Amazon. cawsom storm go hegar ac roeddwn braidd yn bryderus pan welais y bobol leol yn dechrau dweud eu pader!
Wrth ymweld ag ynys Anjuan yn y Comoros, cefais fy hun ynghanol gwrthryfel lleol a chefais fy nghyhuddo o fod yn filwr cyflog (mercenary). Roedd pawb o'm gwmpas yn cario gynnau AK47 ac RPG's. Medrais eu sicrhau nad oeddwn yn filwr cyflog yn y diwrnod ond roeddwn ar y cwch nesaf o'r ynys drannoeth! Y tric ydy cadw'n cŵl a pheidio â gwylltio!
Rwyf wrth fy modd yn cerdded yn y mynyddoedd. Rwyf wedi trecio i'r gwersylloedd ar odrau Everest a K2. Mae K2 yn fynydd andros o drawiadol, tebyg i byramid enfawr. Caf bleser o weld anifeiliaid yn y gwyllt hefydd. Gwelais gorilas yn Zaire ac orang-wtangs yn Borneo. Cefais hwyl o weld y lemurs ar ynys Madagascar ac roeddwn wrth fy modd yn gweld yr eirth gwyn pan ymwelais â Spitzbergen. Braint hefyd oedd gweld yr albatros yn y Falklands. Dw i'n mwynhau snorclio a chael gweld holl liwiau'r cwrel a'r pysgod - ond cadw draw o'r siarcod! Trist yw gweld yr holl gynefinoedd yn cael eu dinistrio o gwmpas y byd.
Rwyf yn licio'r anialwch yn arw. Un adeg, crwydrais allan o Dimbyctw ac eisteddais i lawr i fwynhau'r tawelwch. O nunlle ymddangosodd carafan o Tuaregs ar gefn camelod. Cyfrais tua chwe deg. Roedd fel petawn yn gweld hanes yn mynd heibio wrth i'r garafán symud ymlaen ar ei ffordd i'r gwaith halen yn ne Algeria. Fe ddychwelon nhw gyda blociau o halen i Dimbyctw, eu dadlwytho yno ac yna eu gyrru ymlaen i lawr yr afon Niger.
Rwyf yn ffodus o fod wedi ymweld a mannau arbennig p gwmpas y byd. Yn Lalibelia yn Ethiopia, gwelir eglwysi wedi eu cerfio o'r creigiau. Yn Pagan yn Burma mae temlau i'w gweld mor bell ag y gwêl y llygad. Ym Machu Picchu ym Mheriw roedd yr olygfa mor anhygoel fel bod rhaid i mi eistedd i lawr! Mae temlau Angor Wat yn Cambodia hefyd yn arbennig iawn.
Mae'r Wal Fawr yn China yn drawiadol iawn wrth iddi droelli i'r pellter ar draws y mynyddoedd. Ac mae'r pyrarnidiau Aztec a Mayan, ym Mecsico a Gwatamala ac yn yr Aifft a Sudan, i gyd yn werth eu gweld.
Cefais andros o bleser yn ymweld a'r Antarctig gyda chopaon y mynyddoedd yn codi'n uchel dros blanced wen o rew ...
Cefais hwyl hefyd yn ymweld â'r Wladfa. Mae'r croeso mor gynnes yno ac mae'n anhygoel medru sgwrsio yn Gymraeg dros baned o de a sgons mor bell i ffwrdd o Gymru! Dro arall treuliais dri deg o ddiwrnodau yn teithio ar y llong MS St Helena i gyrraedd ynys St Helena. Yma y carcharwyd Napoleon, ac ymwelais â Longwood, y tŷ^ oedd yn garchar iddo.
Cefais daith fythgofiadwy yn hwylio am ddau fis o gwmpas De'r Pasiffig. Hedfan i ddechrau i Ynys y Pasg, lle cefais fynd i weld y cerfluniau gwynebau anhygoel cyn dal y llong Soren Larsen (hon oedd y llong yng nghyfres y BBC, The Onedin Line). Hwylio i ynys Pitcairn, ble mae'r bobl yn ddisgynyddion gwrthryfelwyr y Bounty. Hwylio ymlaen wedyn i ymweld ag ynysoedd folcanig y Marquesas a ffarwelio a'r llong yn Tahiti. Ar adegau roedd yn job gwybod pa raff i'w halio!
Mi wnes i un daith mewn steil! Treuliais chwe diwrnod yn croesi o Southampton i Efrog Newydd ar y QEII. Cysgais ddwy noson yn y Waldorff Astoria a hedfan yn ôl ar Concorde. Roedd yn braf medru teithio mewn cysur am unwaith yn hytrach na'i ryffio hi!
Ray Williams