BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Treialon Cwn DefaidGwahodd y Genedlaethol i Lŷn
Tachwedd 2005
Na, nid y 'Steddfod nac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd chwaith ...
... ond mewn cyfarfod a drefnwyd rhwng cynrychiolaeth o Bwyllgorau Ymrysonfeydd Cŵn Defaid Aberdaron, Y Rhiw, Sarn, Abersoch, Efailnewydd, Llanystumdwy a Chlynnog ar nos Fawrth, 18 Hydref, penderfynwyd gwahodd Ymrysonfa Gŵn Defaid Genedlaethol Cymru i ardal Dwyfor yn ystod haf 2008.

Dewiswyd un o selogion y byd ymryson cŵn, sef Mr Ieuan Williams, Efailnewydd, yn Gadeirydd ar y pwyllgor lleol. Yn naturiol, bydd yna lawer o waith caled yn wynebu'r Cadeirydd a'i bwyllgor yn llywio a threfnu cant a mil o ofalon rhwng rŵan a hynny. Trefnu'r maes, trefniadau iechyd a diogelwch, parcio, codi arian, llety a chroeso, i enwi dim ond ychydig.

Mae'n edrych yn debyg yn barod mai yma yn Llŷn y lleolir y gweithgareddau, oherwydd mae'r gwaith o edrych am gaeau fydd yn ddigon mawr i gynnal yr ymrysonfa wedi cychwyn yn barod, a thrafodaethau eisoes ar y gweill hefo perchenogion y tir.

Dylai cynnal y Genedlaethol ddod â hwb sylweddol i economi'r ardal gan ei bod yn denu ymwelwyr a chystadleuwyr niferus yn flynyddol.

Dymunwn bob llwyddiant i'r fenter. Yn sicr, bydd dilyn ar y datblygiadau yn y Llanw dros y tair mlynedd nesa'.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy