BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Bethan Angharad JonesS4C - rap?!!
Mai 2003
Bethan Angharad Jones o Forfa Nefyn a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Tlws y Llanw eleni.
Mae Bethan yn ddisgybl yn Ysgol Botwnnog ac meddai'r beirniad, T. Emyr Pritchard, am ei gwaith: Mae'n hyddysg iawn ym myd yr operâu sebon Cymraeg, ac mae'n cael hwyl yn rhoi ei llathen ar y dramâu cyfres Cymraeg ac yn gallu mynegi ei safbwynt mewn arddull fyw a deniadol.

Eastenders, Coronation Street, Footballers' Wives, Bad Girls neu The Simpsons sydd ar eich sgrîn deledu chi gyda'r nos? Ynteu Pobol y Cwm, Xtra, Rownd a Rownd a Wedi 6, sori 7?

Pryd y buoch chi yn gwylio Pobol y Cwm ddiwethaf? Neithiwr, yr wythnos ddiwethaf, y mis diwethaf, y flwyddyn ddiwethaf??

Safon rhaglenni S4C heddiw: da ta sâl? Beth ydy'ch barn chi? Beth oeddech chi yn arfer ei wylio am 7.00 o'r gloch bob nos y llynedd: Pobol y Cwm ar S4C, ynteu Emmerdale ar ITV1? Ydy rhaglenni Cymraeg yn cael eu hanwybyddu gan bobol ifainc, neu'n gwneud iddyn nhw droi at sianeli 1.2.3. a Sky ac yn y blaen?

Wel, yn sicr, mae safon S4C wedi dirywio ers blynyddoedd bellach ac mae safon rhai rhaglenni yn warthus. Rydw i, sy'n ferch bymtheg oed, yn teimlo nad oes digon o bethau ar gyfer yr ifainc ar y sianel.

Yr unig ddwy raglen y byddaf i yn eu gwylio arni bellach ydy Rownd a Rownd' ac Amdani. I mi dyma'r unig ddwy raglen sydd ar gyfer pobol ifainc, gyda safon y rhaglen a'r actio yn dda iawn.

Pe buasai rhywun wedi gofyn i mi ryw bum mlynedd yn ôl pa raglenni fyddwn i'n eu gwylio ar y teledu, yna mi fyddai Pobol y Cwm' yn un o'r rhai cyntaf ar fy rhestr. Ni fuasai Pobol y Cwm' ar fy rhestr i bellach gan fod yr opera sebon yma wedi mynd yn sâl ofnadwy.

Mae yna actorion gwych wedi gadael y rhaglen a symud ymlaen at bethau gwell. Mae'n anodd credu mai yn Pobol y Cwm' y cychwynnodd Ioan Gruffydd, yr actor byd-enwog, ar ei yrfa fel actor mor lwyddiannus. Yr ydw i'n cael yr argraff rwan y caiff unrhyw un actio yn y gyfres os oes rhywun o'r teulu yn ymwneud â'r sianel. Who you know' ydy hi yn fy marn i.

Bellach mae amserlen y sianel wedi newid: ers dechrau'r flwyddyn mae'n cael ei darlledu mor hwyr â 9.00 o'r gloch ar rai nosweithiau yn ystod yr wythnos.

Dydw i ddim wedi gwylio Pobol y Cwm' ers bron i flwyddyn a hanner bellach, oherwydd safon y stori, yr iaith a'r actio. Yr ydw i wedi clywed llawer o gwynion am yr unig opera sebon Gymraeg sydd ar gael, a phrif gwyn pobol yw safon yr actio. Mae'r rhai sydd ar y rhaglen heddiw yn ddifrifol ac mi rydw i wedi gweld gwell actio mewn dramâu lleol.

Yn ddiweddar roedd S4C yn dathlu ei phen blwydd yn ugain oed. Yn ystod rhaglen arbennig roedd yr ugain rhaglen orau erioed ar S4C yn cael eu dangos, a'r rheini wedi eu dewis gan y gwylwyr. Dyma'r tair gyntaf: yn y drydedd safle yr oedd C'mon Midffild', yn ail Pobol y Cwm', ac, yn fuddugol, ac yn cael y teitl Rhaglen Orau Erioed ar S4C, yr oedd Cefn Gwlad'. Efallai nad yw'r rhaglen hon at ddant pawb, ond y mae yna lawer o hwyl a sbri i'w gael wrth wylio Dai Jones yn teithio o gwmpas cefn gwlad Cymru ac yn cyfarfod cymeriadau a hanner.

Ond C'mon Midffild' fuaswn i wedi'i dewis fel y rhaglen orau, gan fy mod yn credu mai dyma'r rhaglen orau sydd wedi bod erioed ar S4C. Yr ydw i wedi gwylio rhai ohonyn nhw drachefn a thrachefn. Ac yn dal i chwerthin gymaint ag yr oeddwn i pan welais i'r gyfres am y tro cyntaf.

Un o'r rhaglenni a ddarlledwyd ar S4C yn ddiweddar oedd Treflan', sef cyfres yn seiliedig ar nofelau Daniel Owen. Roedd hi'n cael ei dangos am naw o'r gloch ar nos Sul, ac ailddarllediad ohoni ar nos Fawrth am ddeg.

Doeddwn i ddim yn rhy siwr o'r rhaglen i ddechrau oherwydd imi ddarllen adolygiad arni, a chredais y buasai hi yn un ddiflas ac na fyddwn yn ei deall. Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan fod cynnwys y rhaglen yn ddiddorol dros ben, ac yn berffaith, yn fy marn i, ar gyfer pobol ifainc sy'n hoffi dramâu.

Cyfres arall a ddangoswyd ar S4C yn ddiweddar oedd 9 Tan 9', rhaglen gomedi am griw o bobol yn gweithio mewn siop bentref fechan. Cafodd ei hysgrifennu gan Eilir Jones, ac roedd un o'r prif gymeriadau yn cael ei chwarae gan Maldwyn John, un o fy hoff actorion Cymraeg. Un o'r rhaglenni gorau sydd wedi cael ei dangos ar S4C ers tro dybiwn i.

Roedd Tipyn o Stad' hefyd yn rhaglen a wnaeth fy mhlesio i yn arw, rhaglen a ffilmiwyd yn ochrau Caernarfon. Os sylwch chi, mae'r rhaglenni hyn yr ydw i wedi eu rhestru i gyd wedi eu gwneud yng ngogledd Cymru. Tybed a ydy safon rhaglenni Cymraeg yn well os ydyn nhw wedi eu ffilmio yn y gogledd?

Wel, mae yna broblem ynglyn â rhaglenni Cymraeg, ac fe ddylid ceisio'i datrys. Fe fyddai dangos hen glipiau o C'mon Midffild' yn well gan lawer o bobol na Pobol y Cwm' am naw ar nos Lun. Rhaid cofio bod y sianel yma wedi ei sefydlu er mwyn achub yr iaith.

Oes perygl, felly, colli'r iaith oherwydd bod safon rhaglenni Cymraeg yn dirywio bob dydd? Mae hi'n bwysig gwneud yn siwr bod pobol ifainc yr oes yma yn gwylio S4C gan mai nhw yw dyfodol Cymru a'r iaith Gymraeg.

Yn sicr, mae safon S4C wedi dirywio ers blynyddoedd bellach ac mae safon rhai rhaglenni yn warthus.

Bethan Angharad Jones


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy