BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Emlyn Jones a Tecwyn Jones yn sgwrsio gyda Sue Essex a'r Cyng. Mike Sol Owen Lôn Rhiw yn agor
Hydref 2006
Agorwyd y lôn newydd i Rhiw yn swyddogol ddydd Mawrth, 12 Medi gan Sue Essex AC, y Gweinidog dros Gyllid Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Cynghorydd Michael Sol Owen, Cadeirydd Cyngor Gwynedd.
Mae'r ffordd sengl, 850 medr o hyd, yn cymryd lle'r darn o ffordd uwchben Porth Neigwl, ger Plas yn Rhiw, sydd wedi bod ar gau yn dilyn tirlithriad yn Rhagfyr 2000.

Dywedodd Sue Essex AC: 'Dyma brosiect arwyddocaol iawn i Gyngor Gwynedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r cynllun hirddisgwyledig yn ailsefydlu'r linc pwysig rhwng pentref Rhiw - linc a gollwyd pan gafodd y ffordd ei chau yn dilyn tirlithriad yn ystod y tywydd garw yn nhymor yr hydref 2000.

Mae'r cynllun gwerth £2.6m, sydd wedi ei ariannu gan Gynllun Cyfalaf Tywydd Garw'r Cynulliad a Chyngor Gwynedd, wedi ei gwblhau'n llwyddiannus ddau fis o flaen llaw er gwaethaf arwyneb cras y tir, coridor gwaith cul, problemau traenio a nifer o faterion amgylcheddol oedd angen sylw.'

Mae'r lôn newydd, sy'n cychwyn ger mynedfa Plas yn Rhiw ac yn rhedeg drwy ran o goetir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn cynnwys ffyrdd mynediad newydd i nifer o eiddo a mynedfeydd i gerddwyr, sy'n galluogi i'r llwybrau aros yn agored drwy goetir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gwnaethpwyd gwaith hefyd ar hyd yr hen ffordd, fel y gellir ei defnyddio fel llwybr merlota fydd yn cysylltu'r nifer o lwybrau troed sydd yn rhedeg drwy'r coetir, y llwybr cyhoeddus newydd a'r rhwydwaith ffordd newydd.

Rhoddwyd blaenoriaeth mawr i faterion amgylcheddol drwy gydol y prosiect, gyda nifer o archwiliadau'n cael eu cynnal ar gyfer nifer o rywogaethau prin, gan gynnwys moch daear, ystlumod, pathewod ac ymlusgiaid.

Defnyddiwyd amryw o dechnegau walio sych a gwnaed defnydd o garreg leol a ganfuwyd ar y safle. Gwnaethpwyd pob ymdrech i dynnu cyn lleied ag oedd yn bosib o goed o'r safle a gellir gweld canlyniad hyn mewn sawl lleoliad ar hyd y ffordd, ble mae coed aeddfed yn tyfu yn agos iawn i'r ffordd newydd.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy