| Mae Guto yn dod o Drefor ac yn fyfyriwr ar ei flwyddyn gyntaf yng Ngholeg Meirion Dwyfor; daeth yn drydydd yn y gystadleuaeth y llynedd. Cafodd y beirniad, Alwyn Gruffydd, ei blesio gan safon y gystadleuaeth. "Mae'n braf cael cyhoeddi," meddai, "i 49 o erthyglau ddod i law ac roedd pob un ohonyn nhw'n ddi-wahân yn ddiddorol ac aeddfed eu cynnwys. "Ar ôl crafu pen ac ystyried llwyddais drwy ryfedd wyrth eu cyfyngu i restr fer. "Mae'n bosib y basa beirniad arall ar ddiwrnod arall yn anghytuno gyda'm dewis. "Wedi'r cwbl ychydig iawn oedd yn gwahanu'r erthyglau i gyd o ran eu safon." Aeth yr ail wobr i Sioned Hughes o Bentreuchaf, sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, a'r drydedd wobr i Mathew Penri Williams o Laniestyn, sy'n ddisgybl blwyddyn 10 yn Ysgol Botwnnog.
 |