Tros gyfnod o flynyddoedd wrth i'r clogwyn erydu mae olion o'r oesoedd a fu wedi bod yn ymddangos ym mhen Cilan o Borth Neigwl. Gyda'r erydiad mae hen hen dir yn dod i'r golwg, tir sydd wedi'i orchuddio dros amser gan dywod a llif o glai. Yn yr haenen yma cafodd archeolegydd o Ddeganwy, David Chapman hyd i gyllell a chreiriau fflint eraill sy'n tarddu, mae'n debyg o'r 'Ffatri' ym mynydd Rhiw. Yn ogystal ag offer carreg, daeth hefyd o hyd i dyrrau o gerrig wedi'u llosgi, oedd yn awgrymu fod pobl wedi bod yn byw yna ar un adeg. Arweiniodd hyn at archwiliad gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ym mis Mawrth eleni. Darganfuwyd cafn pren, gwnaed archwiliadau gwyddonol a chanfod fod y pren tua l650cc. Ei bwrpas, mae'n debyg, oedd i ddal dŵr a'i gynhesu gyda cherrig poeth, o bosib ar gyfer coginio. Gan fod y cafn ar ymyl y clogwyn, gallai gaeaf arall fod wedi ei olchi i ffwrdd am byth ac felly, yng nghanol stormydd Tachwedd eleni aeth tîm o arbenigwyr o Wynedd ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ati i'w godi'n ofalus a'i gludo i Gaerdydd. Bydd yn cael ei roi'n ôl at ei gilydd, a'i arddangos yn yr Amgueddfa.
Cafwyd hyd i hen, hen hadau yn y ddaear hefyd, a'r gobaith yw y bydd dadansoddiad o'r rhain yn rhoi mwy o oleuni ar beth oedd yn digwydd ar y safle.
Mae'r safle'n eiddo i Robert a Mair Evans, Fferm y Nant, Cilan. Mae'n rhyfeddol meddwl fod 'nant' yn amlwg, felly, wedi bod yn nodwedd bwysig ers dros 1000 o flynyddoedd cyn geni Crist.
Diolch i George Smith o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd am yr hanes.
 |