BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Dau o blant Ysgol Nefyn gyda'r bêl-droed wedi ei harwyddo gan aelodau o dîm Cymru.Pêl arbennig i Nefyn
Rhagfyr 2004
Mi aeth 'na bêl go arbennig ar werth ar y safle we 'e.bay' yr wythnos ddiwethaf.
Bu Ysgol Nefyn yn ffodus iawn i gael gafael ar bêl droed wedi'i harwyddo gan Dîm Cenedlaethol Cymru.

Mae hi'n bêl arbennig iawn gan mai hon oedd yr un a ddefnyddiwyd gan y tîm yn y gêm ryngwladol ddiweddar yn erbyn Gwlad Pŵyl.

Bu'r ysgol yn ffodus iawn i gael y bêl, ynghyd a thiced a rhaglen o'r gem, i'w helpu i godi arian at yr ysgol gan un o'r rhieni.

Meddai Mr Arwel Jones: "Mae'r bêl yn un arbennig iawn. Hon oedd y bêl a ddefnyddiwyd yn y gêm olaf a chwaraeodd tîm Cymru o dan Mark Hughes fel Rheolwr. Mi fydda i'n sicr yn rhoi cynnig i mewn."

Bydd yr arian yn mynd tuag at gostau yr wyth bwrdd gwyn rhyngweithiol sydd wedi'u gosod ym mhob dosbarth yn yr Ysgol.

"Mae'r Byrddau Gwyn yn gaffaeliad mawr i'r ysgol. Mae Cymdeithas Rhieni / Athrawon yr ysgol wedi cyfrannu'n aruthrol i godi arian i brynu'r offer newydd yma, ac mae cyfraniad y bêl yn help mawr i ni," meddai Mr Jones.

"Hoffwn hefyd ddiolch o galon i deulu'r Andersons, fu'n helpu i wneud y gwaith cysylltu a'r ocsiwn ar y we."

Dydd Llun oedd y diwrnod cynhyrfus pan oedd y cyfle olaf i roi cynnig, a chyda dim ond munudau ar ôl i roi cynnig ymlaen, enillodd Michael Brady o Nefyn y bêl werthfawr am fargen - £151. Am fwy o hanes yr ysgol trowch i mewn i safle we Ysgol Nefyn.

'Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy