Fe'i magwyd yng ngogledd Swydd Efrog ac yn fachgen ifanc iawn byddai'n mynd allan efo'i dad i wylio adar; ymunodd hefyd a'r YOC, sef c1wb plant yr RSPB. Yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Norwich am dair blynedd a Phrifysgol Vancouver am flwyddyn.
Fe gafodd gyfle i astudio adar mor ym Mauritius am saith mis hefyd, cyn symud i Sgomer am ddwy flynedd a hanner.
Yn ystod ei ail flwyddyn yn y brifysgol roedd Richard yn byw yn nhŷ Chris Mead, yr adarwr enwog, a dyma'r adeg y dechreuodd fodrwyo adar o dan ei arolygiaeth.
Aderyn cyntaf
Yr aderyn cyntaf iddo ei fodrwyo oedd y gnocell fraith leiaf ar safle'r MOD a oedd yn warchodfa natur.
Byddai'n mynd i Cape Wrath i wylio adar môr ac yn gwirfoddoli yn y warchodfa.
Ym Mauritius gwelodd golomennod pinc, adar trofannol cynffon hir a chudyll Mawrisiaidd.
Yma ceisiodd ddysgu'r plant ynglyn a chadwraeth.
Daeth pobl o Kew yno a dweud nad oedd yr un goeden goffi
ar ôl ar yr ynys oherwydd eu bod wedi cael eu dinistrio, ond dyma un o'r plant yn dweud: "Mi wn i ble mae 'na goeden goffi; dwi i'n ei gweld hi bob dydd ar y ffordd i'r ysgol". Felly achubwyd y goeden goffi olaf diolch i'r plentyn sylwgar hwnnw.
Yn 2005, yn ystod ei gyfnod ar Ynys Sgomer, y dechreuodd Richard gymryd diddordeb mewn gwyfynod.
Roedd gwaith ar wyfynod yn cael ei wneud yno, a dysgodd yntau eu henwau fesul un trwy
ddefnyddio'r Field Guide to the Moths of
Great Britain and Ireland.
Gwyfynod
Ers iddo ddod i Enlli, rhan bwysig o'i waith am 10 o'r gloch bob bore ydy cyfri gwyfynod a'r gwahanol rywogaethau.
Pan oeddwn yn aros ar Enlli ym mis Gorffennaf, fe'i welais yn gwneud hyn.
Er mwyn dal y gwyfynod roedd yn gosod bocs yn yr ardd wedi ei lenwi efo bocsys wyau, a chaead ar ei ben efo twll yn ei dop fel twmffat.
Bob nos byddai'n rhaid rhoi golau ynddo wedi ei gysylltu efo batri a choke: roedd hwn yn gofalu nad oedd v bwlb vn mvnd yn rhy boeth ac yn llosgi.
Soniodd Richard fod y lleuad yn gwneud gwahaniaeth, oherwydd os ydy hi'n olau, bydd llai o wyfynod o gwmpas.
Roedd gan Ben Porter, mab y fferm ar Enlli, focs tebyg ym Mhlanhigfa'r
Nant yng ngogledd yr ynys.
Roedd
Richard wedi ei annog yntau i ddysgu am wyfynod a byddai'n galw heibio yn y bore i ddweud beth oedd wedi ei weld.
Modrwyo
Yn ystod un bore pan oeddwn yn aros yno ym mis Gorffennaf, cafodd dros 200 o wyfynod o 28 o rywogaethau gwahanol eu dal.
Hyd at hynny, teigr yr ardd oedd y gwyfyn mwyaf cyffredin ar yr ynys, a'r un newydd eleni oedd y brith bach gwelw.
Fel y dywedais, Richard ydy'r is-warden ac mae ei ddyletswyddau yn cynnwys gwylio adar a'u modrwyo a rhoi'r wybodaeth i gyd ar gyfrifiadur.
Am 8.30 yr hwyr fe ddaw pawb at ei gilydd i ddweud pa adar, gloÿnnod byw a morloi y maen nhw wedi eu gweld yn ystod y dydd, a faint o bob un.
Os bydd y tywydd yn ffafriol yna aiff pawb allan tua 11.30 yn y nos i weld a modrwyo'r pedryn ac aderyn drycin Manaw.
Mae'r wybodaeth yn cael ei chofnodi yn yr adroddiad blynyddol. Mae Richard hefyd yn paentio, torri gwellt ac yn gwneud tasgau cyffredinol eraill.
Edrychwch ar safle we'r Wylfa am ragor o wybodaeth: www.bbfo.org.uk.
Ann Vaughan