BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Alabaina BwtHanes Alabaina Bwt
29 Gorffennaf 2003
Efallai y bydd y rhai ohonoch a ddarllenodd yr erthygl am Gloch Pitar Siôn Dafydd yn rhifyn Mawrth 2002 o'r Llanw yn cofio imi sôn am ddynion y llestri mulod a arferai alw o dro i dro gyda Peter Jones, neu Pitar Siôn Dafydd, fel y cai ei adnabod: ef oedd clochydd Mellteyrn yn ogystal â Botwnnog.

Yng nghartref yr hen glochydd, sef y Fron Deg, yr arferai y tylwyth melyn eu crwyn storio eu marsiandïaeth, sef llestri pridd y byddent yn eu cyfnewid am garpiau gan y gwehyddion.Arhosent yn yr ardal am ychydig ddyddiau ar y tro cyn symud eu gwersyll i gymdogaeth wahanol. Tueddaf i gredu mai hiliogaeth yr enwog Abram Wood, y sonnir hyd heddiw am ei deulu enfawr, oedd y crwydriaid hyn, gan iddyn nhw fod yn gwersylla ar gyrion Llanengan tua'r un cyfnod.

Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am Abram Wood heblaw mai Romani ydoedd, beth bynnag am ei briod, Sarah, a bod ganddynt dri mab ac un ferch. Valentine oedd y cyntaf anedig a phriododd ef gyda Jane Boswell. William oedd yr ail fab, a briododd gyda Mary Stanley, hithau o dras sipsiwn. Cymraes o'r enw Jane Hughes oedd priod Solomon, y trydydd plentyn, a rhwymwyd Damaris, y ferch, gyda Meredith Ingram, yntau o dras tylwyth arall o sipsiwn.

Gan mor luosog ydyw teulu Abram Wood erbyn heddiw, buasai'n ofynnol wrth ddalennau lawer i gofnodi hynt a helynt pob aelod, felly anelaf yr hanes hwn i gyfeiriad un o ferched Valentine, sef Alabaina, wvres Abram, yr hon a adwaenid gan ei theulu fel Alabaina Bwt.

Alabaina Bwt
Un fechan o gorff gyda gwallt du modrwyog oedd y sipsi a ganwyd hi oddeutu y flwyddyn 1778. Gan mai rhai gwael am gadw cofnodion oedd y crwydriaid - wedi'r cwbwl roedd ganddynt eu deddfau ynghyd â'u crefydd eu hunain - mae llawer digwyddiad wedi mynd i ddifancoll, sy'n golygu na fedrwn ni heddiw ond amcanu dyddiadau geni, priodi a marw.

Cawn hanes Alabaina yn Llanengan ym 1799, fodd bynnag, yr un flwyddyn ag y bu i'w thaid adael y fuchedd hon. Cofnodir ei farwolaeth ef yng nghofrestr plwyf Llangelynnin ar y 12fed o Dachwedd 1799, a disgrifir of fel A travelling Egyptian'.

Credai'r werin ofergoelus fod gan Alabaina bwerau goruwchnaturiol gyda'r gallu i ddenu'r tylwyth teg, a'i bod hefyd yn ddewines gyda'r ddawn i reibio a swyno pe dymunai! Beth bynnag am reibio, mae'n ymddangos y medrai swyno gan i un gwr o'r enw William Jones gael ei ledrithio'n llwyr ganddi a syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad a'r sipsi un ar hugain oed. Yn wir, er ei fod eisoes yn briod, gofynnodd i Alabaina a fuasai hi'n ei briodi. "Na," oedd ei hateb hi. "Romani ydw i a Gaje wyt tithau," meddai, "a fyddai fy nheulu i byth yn fodlon dy dderbyn."


Bedd Abraham Wood
Bedd Abraham Wood
Yn ystod eu harosiad yn Llanengan, fel mewn llawer ardal arall, byddai'r sipsiwn yn cynnal dawnsfeydd a rhialtwch i swn y ffidil. Roedd yr Woodiaid yn bencampwyr ar y grefft o wneud a chanu'r offeryn, ac yn ystod un o'r nosweithiau hyn yr erfyniodd William Jones am yr eilwaith ar y sipsi fechan i redeg i ffwrdd gydag ef - ac o'r diwedd fy gytunodd! Ymhen amser daeth William ac Alabaina yn ôl at y tylwyth gan erfyn am faddeuant - ac fei cawsont.Gyda threigl amser, fodd bynnag, canfuwyd nad oedd William Jones yr hyn y disgwylir i wr priod fod : byddai yn aml yn anffyddlon iw wraig a gadawai hi am fisoedd ar y tro.

Yn ystod eu priodas ganwyd iddynt bump o blant, sef Richard, Elizabeth, Sarah, Edward a Nutty ond bu farw Nutty yn bedair oed. Priododd Sarah gyda Chymro o'r enw Edward Ffoulkes a chartrefodd yng Nghaernarfon. Gwyddom i Alabaina dreulio blynyddoedd olaf ei hoes yng Nghaernarfon - hyn ar ôl i William ei gwr briodi am y trydydd tro! Efallai mai gyda'i merch Sarah y cartrefai.

Yn ôl pob sôn, roedd yr hen wraig yn uchel ei pharch gan bobl y dref; roedd ei hymddygiad yn bendefigaidd a heblaw am ei gwisg a'i chlustdlysau buasai'n anodd credu iddi erioed fod yn sipsi. Bu farw yng Nghaernarfon, a phan euthum drwy gofrestr claddedigaethau Eglwys Llanbeblig, gwelais y canlynol: Alabaina Jones, Tanrallt, Caernarfon. August 23rd, 1848, aged 70 yrs. Tho. Thomas. Vicar.

Preswylydd y bedd agosaf yw William Jones, ei chyn-briod. Er iddynt fod ar wahân am flynyddoedd maith, ei ddymuniad olaf ef oedd cael ei roddi i orffwys wrth ochr y ferch a gyfarfu yn Llanengan 'slawer dydd. Pwy a feiddiai ddweud na fedr y sipsi swyno?

Gwilym Jones


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy