Sŵn y camera ydy o, a Ruth fy chwaer sydd wrthi'n brysur! Ma' na lawer o bethau sy'n tynnu ei sylw, Elis
ein brawd bach, aelodau o'r teulu, natur, bywyd gwyllt a Bes y ci!
Y ci sydd bellach wedi hen arfar cael ei llun yn y papur, yn dilyn llwyddiant arbennig Ruth mewn cystadleuaeth
ffotograffiaeth genedlaethol.
Clywsom am y newyddion gwych mewn seremoni wobrwyo yn yr Olympia yn
Llundain ym mis Ionawr.
Roedd Ruth wedi cae1 ei gwahodd yno yn dilyn dod yn
fuddugol yn ei chategori oed, ac roedd siawns wedyn i fynd ymlaen i ennill y brif wobr.
Felly am dri y bore ar yr ail ar bymtheg o Ionawr cychwynnom am Lundain, Ruth, Mam,
fi ac Anti Meinir! Dio1ch byth am seti cyfforddus y trên!
Doedd dim amser i siopa yn Llundain, anelu yn syth am yr Olympia i gyrraedd y seremoni mewn pryd.
Y cwmni printars "Oki" oedd yn cynnal y gystadleuaeth gyda'r Born Free Foundation, ar brif wobr oedd trip tri diwrnod i'r Shamwan Game Reserve yn Ne Affrica.
Roedd y profiad o sefyll gyda fy chwaer fach i dderbyn ei gwobr yn
fythgofiadwy (a dagreuol!). Roeddwn i mor
falch ohoni.
Fesul un galwyd enwau i dderbyn eu gwobrau ond yn dal i sefyll yr
oedd Ruth. Pan alwyd ei henw fel y buddugol
ni allwn gredu'r peth.
Fy chwaer fach wedi ennill allan o 720 o luniau! Roedd hi ar ei
ffordd i dde Affrica.
Enillodd gamera digidol, printar
gwerthfawr i Ysgol Botwnnog, mabwysiadu
lle yn y gwyllt a phan aiff i Dde Affrica ym mis
Awst eleni fe gaiff y cyfle i ymweld ag ysgol,
mynd ar saffari a llawer, llawer mwy.
Dwi'n
dymuno'n dda iddi, llongyfarchiadau mawr
eto Ruth, a dwi'n addo wna i fyth eto gwyno
wrth glywed, clic, clic y camera!
Laura Williams