BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Pont a phentref AberdaronSiom Anferthol
Tachwedd 2004
Cynllun Hen Felin Aberdaron
'Siom anferthol,' dyna deimladau pobol Aberdaron wedi i'r cynllun y bu gwaith mawr arno ers saith mlynedd fynd i'r gwellt yn gwbl annisgwyl - ond mae'r pwyllgor yn awyddus i ddal ati.
Ym 1997 aeth criw at ei gilydd i sefydlu Pwyllgor Adfywio Bro Aberdaron ac aethpwyd ati i lunio holiadur i weld beth oedd anghenion y fro. Un o'r prif syniadau oedd adfer y felin a'r tir o'i hamgylch, a dwy flynedd yn ddiweddarach, gyda chydweithrediad y perchennog, lluniwyd cynllun i adfer yr Hen Felin ac adeiladu nifer o unedau newydd ar dir o'i hamgylch.

Roedd y cynllun yn cynnwys adfer yr Hen Felin ac adeiladu o'r newydd ystafell i arddangos hanes a diwylliant y fro, swyddfeydd ar gyfer llogi teithiau, canolfan wybodaeth i ymwelwyr, siopau bychain a bwyty.

Roedd cynlluniau hefyd i wneud gwelliannau amgylcheddol i ganol y pentref. Sefydlu Cwmni Adfywio Melin Aberdaron (CAMA) fel cwmni cydweithredol cymunedol ym Mehefin 2003.

Y gobaith oedd creu rhai swyddi amser llawn a nifer o swyddi rhan amser tymhorol i bobol leol, cyrchfan ar gyfer ysgolion, mudiadau, pererinion, ymwelwyr a grwpiau o bob math.

Roedd y rhagolygon yn edrych yn addawol iawn. Cafwyd cefnogaeth i'r cynllun gan Gyngor Gwynedd, Cronfa Loteri'r Treftadaeth a CADW, a buddsoddwyd bron i £20,000 o arian cyhoeddus i sicrhau llwyddiant y cynllun. Sicrhawyd cyllid pellach o £40,000 i gyflogi pensaer i baratoi cynlluniau manwl fyddai, ynghyd a'r Cynllun Busnes, yn galluogi'r pwyllgor i wneud cais am £1 miliwn. Bryd hynny roedd y Cwmni yn edrych ymlaen yn hyderus i ddechrau adeiladu yn ystod 2005.

Yn ôl Bob Dorkins, aelod o'r pwyllgor, roedd y perchennog yn ymwybodol o'r datblygiadau drwy gydol y cyfnod ond, ar yr unfed awr ar ddeg, hysbyswyd y pwyllgor, yn annisgwyl iawn, nad oedd am werthu'r Felin na'r tir i'r Cwmni wedi'r cyfan.

Cysylltodd Y Llanw â'r Dr Osian Ellis, perchennog Yr Hen Felin, ond nid oedd yn awyddus i wneud sylw ar y mater.

"Er gwaetha'r siom, mae'r pwyllgor yn awyddus i ddal ati," meddai Bob Dorkins. "Dydan ni ddim isio i'r holl waith dros y saith mlynedd diwethaf fynd i'r gwellt yn llwyr," ychwanegodd.

"Mae'r pwyllgor yn trio'i orau i fod yn gadarnhaol. Mae 'na lawer iawn o bres wedi ei wario a rydan ni wedi hel llawer iawn o arbenigedd, ac mi rydan ni ar hyn o bryd yn ceisio gweld a oes yna opsiynau eraill. Cawn weld."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy