BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llanw Llyn
Gwirfoddolwyr yn brysur yn clirio grisiau ar y llwybr canolY Winllan
Mehefin2010
Mae tîm o wirfoddolwyr wedi bod yn dadorchuddio rhwydwaith o lwybrau a oedd wedi bod ar goll ynghanol jyngl o goed estron am 60 mlynedd.

Wedi i gontractwyr orffen y gwaith o dorri rhododendron a llawryf oedd wedi tyfu'n wyllt yn y Winllan, ar lethr dwyreiniol mynydd Tir y Cwmwd, yn Llanbedrog, ym mis Chwefror fe aeth gwirfoddolwyr ati i adnabod a chlirio'r llwybrau a sefydlwyd, yn ôl pob tebyg, yn ail hanner y 19eg ganrif.

Yn ffodus, mae'r llwybrau yn parhau i fod mewn cyflwr da, er eu bod wedi eu gorchuddio a thrwch o bridd, gwreiddiau a deiliach.

Darganfuwyd bod tri prif lwybr yn mynd i fyny'r llethr ar wahanol lefelau ynghyd a llwybrau yn eu cysylltu.

Y llwybr isaf fydd y prif lwybr a bydd hwn yn cael ei gysylltu gyda'r ddelw ar y pentir ac yn cael ei fabwysiadu yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Mae rhan gyntaf y llwybr yma yn llydan a graddol a bydd rhan ohono yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Mae cyfres o risiau cerrig yn arwain at wal gerrig sydd ar y llethr uwchlaw Foxhole, y tai bach gwynion sydd ar y traeth, a bydd llwybr yr arfordir yn arwain trwy fw1ch yn y wal tuag at y ddelw.

Mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn canolbwyntio ar y llwybr canol, sydd yn arwain yn ôl i'r plas o'r pwynt ble mae'r prif lwybr yn arwain trwy'r bw1ch yn y wal ac mae'r llwybr yma yn gerddadwy erbyn hyn, er, wrth gwrs, fydd y Winllan ddim yn agored i'r cyhoedd hyd nes y bydd y gwaith ar y llwybrau wedi ei gwblhau.

Y dasg nesaf fydd dirio'r llwybr uchaf sydd hefyd yn dechrau o'r pwynt ble bydd llwybr yr arfordir yn mynd trwy'r bw1ch yn y wal, ac yn arwain yn ôl i gyfeiriad Pengamfa, sydd yng nghesail y mynydd uwchlaw'r plas, gan ymuno a llwybr Pengamfa, sef un o brif lwybrau'r mynydd.

Mae llwybr arall sy'n cysylltu'r llwybr canol a'r llwybr uchaf hefyd wrthi yn cael ei glirio ar hyn o bryd.

Bu'r Winllan yn rhan o erddi mawreddog Plas Glyn y Weddw, ond yn anffodus fe werthwyd y Winllan arwahan i'r plas yn ystod y 1940au. Yna yn 2008 daeth y cyfle i'r plas brynu'r Winllan yn ôl.

Yn y cyfnod pan oedd Solomon Andrews a'i deulu yn berchenogion ar y plas roedd y llwybrau yn gyfle gwych i ymwelwyr a'r plas gael cerdded yn hamddenol gan edmygu'r golygfeydd.

Roedd cerfluniau ar y llwybrau bryd hynny, ond yn anffodus does dim un ohonynt wedi goroesi.

Un o brif amcanion Oriel Plas Glyn y Weddw ydi ailsefydlu llwybr cerfluniau, ac mae'r cynllun yma yn rhan o nifer o gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y safle a fydd yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd nesaf.

Gyda help gwirfoddolwyr, ein gobaith yw y bydd adnodd hynod o gyffrous ar gael i'r gymuned leol ac ymwelwyr ymhen dwy flynedd.

Mae croeso i unrhyw un sydd a diddordeb mewn treulio ychydig o oriau o bryd i'w gilydd yn gwirfoddoli yn y Winllan - a lle'n well i fwynhau awyr iach, heddwch ac ymestyn y cyhyrau nag yn y goedlan yma yng nghysgod y mynydd uwchlaw traeth Llanbedrog?

Gall unrhyw un sydd a diddordeb gysylltu a mi, Iwan Hughes, cydlynydd gwirfoddolwyr y Winllan ar 01758 740763, neu [email protected]. Iwan


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy