| Ffilm yw
hon sy'n rhoi golwg anarferol ac
ysgafn o obsesiwn y dringwr
George Smith, trwy ei lygaid ei
hun, am ddringo creigiau
trosgrog.
Alun wnaeth y ffilmio, ei chyfarwyddo a'i
chynhyrchu, fe'i sgriptiwyd gan George ac fe'i golygwyd gan Ray Saunders (www.fatcamp.com) Mae côr meibion Dyffryn Peris yn ymddangos yn y ffilm a cheir miwsig cefndir gan fand
Deiniolen. Mae'n ffilm 50 munud a bydd ar werth o gwmpas Ebrill-Mai. Os am weld pigion ohoni ewch i wefan Alun yn alhughes.tv Bydd y DVD orffenedig yn cynnwys y ffilm, yr 'outtakes' a chyfweliad Joe Brown. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
 |