BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Andrew SettatreeGweithiwr Efe
Tachwedd 2008
Ddeufis yn ôl, soniais am benodiad gweithiwr ieuenctid cyntaf Cynllun Efe. Erbyn hyn, mae Andrew Settatree wedi cyrraedd yr ardal ac wedi dechrau ei waith.
Ac mae'n fraint cael estyn croeso cynnes iddo ar ran pawb ohonom sy'n gysylltiedig a'r cynllun, a gobeithio hefyd ar ran yr eglwysi a'r ardalwyr. Rhag ofn na welsoch chi'r erthygl a gyhoeddwyd ym mis Medi, dowch i mi gyflwyno Andrew i chi. Cafodd ei fagu yn Sir Benfro, yn Hwlffordd, ar aelwyd Gristnogol. Wedi gadael Ysgol Tasker Milward yn y dref honno, dilynodd gwrs mewn astudiaethau ieuenctid a chymunedol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yna gwrs nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu'n gweithio fel nyrs yng Nghaerdydd, ac yna yn Awstralia dros y flwyddyn ddiwethaf. Er iddo gael ei fagu yn ddi-Gymraeg, mae Andrew wedi llwyddo i ddysgu'r iaith yn ardderchog. Gwnaeth hynny chwe blynedd yn ôl pan dreuliodd bedwar mis yng Ngholeg y Bala. Mae ganddo brofiad o waith Cristnogol yn ei eglwys gartref ac yng Nghaerdydd, ond dyma'r tro cyntaf iddo dderbyn swydd lawn amser mewn gwaith cenhadol. Bydd yn cydweithio a'r eglwysi i drefnu gweithgareddau a chyfarfodydd Cristnogol ar gyfer yr ieuenctid, ac yn ymweld a'r ysgolion lleol pan fydd cyfle. 0 hyn i'r Nadolig, gobeithiwn y bydd yn dod i adnabod yr ardal a'i phobl, ac yn cymryd rhan mewn rhai cyfarfodydd yn y capeli a'r eglwysi. Un o'r pethau cyntaf ar ei gyfer fydd cyfarfod newydd a fydd yn cychwyn i bobl ifanc blwyddyn 7 i 9 yn Capel Coch ar nos Sul o fis Tachwedd ymlaen. Trefnwyd y cyfarfod hwnnw ar y cyd gennym yn Capel Coch ac Eglwys Sant Padarn. Ar hyn o bryd, mae Andrew'n byw yng Nghwm y Glo, a gwerthfawrogwn y croeso a gaiff ar aelwyd Graham a Casi Thomas ym Min y Nant, Allt Goch, nes y caiff dy neu fflat i'w rentu. Os gŵyr un ohonoch am dy neu fflat rhesymol ei bris ym mro'r Eco, rhowch wybod i mi os gwelwch yn dda. Byddai Andrew yn barod i rannu tŷ os oes un neu ddau o bobl ifanc, dyweder, eisiau help at y rhent neu'r morgais. Edrychwn gydweithio ymlaen at ag Andrew. Gweddïwch drosto, os gwelwch yn dda, a thros bawb fydd yn cydweithio ag ef. Bwriad Cynllun Efe yw cyflwyno'r Arglwydd Iesu i ieuenctid a phlant y fro. Yr Efengyl i Fro'r Eco yw'r weledigaeth. Bydd cyfarfod arbennig cyn bo hir i groesawu Andrew ac i'w gomisiynu i'w swydd. Caiff y dyddiad ei hysbysebu mor fuan a phosibl. Yn y cyfamser, bu chwech ohonom sy'n rhan o waith Efe yng Nghricieth nos Iau, Hydref 16, yn cyfarfod a chyfeillion sy'n gyfrifol am Gynllun Trobwynt, sy'n cynnal gweithwyr ieuenctid Cristnogol yn Llyn ac Eifionydd. Sefydlwyd Trobwynt dair blynedd yn ôl, ac mae'n amlwg bod y gwaith yn llwyddo. Gobeithiwn weld llwyddiant tebyg yng ngwaith Efe. Cafwyd cyfle i glywed am waith y ddau gynllun ac i weddïo dros y gwaith hwnnw. Pan ddechreuon ni drafod gwaith Efe dair blynedd yn ôl, roeddem yn gweld Trobwynt yn batrwm da o'r math o waith y dymunem ei ddatblygu yn y fro hon. Bryd hynny, roedd merch ifanc newydd ddechrau gweithio i Trobwynt. Ers hynny, mae Rachel wedi priodi bachgen o'r enw John Settatree, sydd bellach yn rhannu gwaith Trobwynt efo hi. A'r hyn sy'n rhyfedd yw bod John yn frawd i Andrew yr ydym ni bellach yn ei groesawu i fro'r Eco. John Pritchard
0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy