Efallai eich bod yn cofio pan wnaeth Luis Austin geisio dod i dreulio'r Nadolig yn Waunfawr gyda'i gariad Heddus Gwynedd a'i theulu dros flwyddyn yn ôl, cafodd ei yrru yn ei ôl i'r Ariannin gan yr awdurdodau, er bod ganddo'r fisa cywir.
Bu pobl lleol yn ddygn yn codi arian i helpu Luis i gael dod yn ôl i Gymru, ac erbyn hyn gallwn adrodd am ddiweddglo hapus iawn i'r stori, sef priodas Heddus a Luis ym Mhatagonia yn ddiweddar...
Yn ystod mis Chwefror eleni aeth tri ar hugain o Gymry drosodd i Esquel ym Mhatagonia i fod yn dystion ym mhriodas Heddus Gwynedd Cynhaliwyd y gwasanaeth, o dan ofal Christina Dinonto o Drevelin, yng nghapel Cymraeg Seion, Esquel, a phleser mawr oedd cael cwmni Cymry Cymraeg Esquel, ffrindiau o'r Gaiman ynghyd a ffrindiau a theulu Luis yno i gyd-ddathlu mewn Cymraeg a Sbaeneg gyda ni.
Daeth rhai o aelodau Côr Capel Seion a'u harweinydd i'r gwasanaeth a phleser oedd clywed y canu yn ystod y gwasanaeth gydag Osian yn cyfeilio ar yr organ fach a Meilir yn cynorthwyo ar y gitar.
Drwy gydol y gwasanaeth roedd y par priod yn wynebu'r gynulleidfa a syndod i ni oedd clywed clapio uchel a gweiddi 'hwre' yn syth ar ôl y ddefod. Wrth gwrs, fe ymunom ninnau gyda'r Archentwyr yn frwdfrydig!
Diego Austin oedd y gwas, a'r morynion oedd Meleri (ffrind o Gymru) a Jessica (ffrind o Esquel). Hefyd roedd dau o berthnasau ifancaf Luis yn gyfrifol am ofalu am a chyflwyno'r modrwyau.
Yn dilyn y gwasanaeth cawsom wledd flasus a lliwgar yn y Ganolfan ac mae'n debyg mai hon oedd y briodas gyntaf yno ers tua 1987.
Roedd y Ganolfan wedi ei haddurno ar gyfer y briodas ond diddorol, hefyd, oedd gweld lluniau hanesyddol yn cael lle amlwg ar y waliau, gan gynnwys lluniau o briodasau cynharach a lluniau pobl efo cysylltiadau Cymreig, gan gynnwys llun o gyn-daid Luis, sef Thomas Tegai Austin, a oedd yn aelod o'r fintai gyntaf a aeth drosodd ar y Mimosa.
Roedd yr englyn enwog i Neuadd Mynytho yn cael lle amlwg yno hefyd. Cyflwynwyd y copi o'r englyn gan Hazel Charles Evans ar achlysur agor Canolfan Gymraeg yr Andes yn 2002.
Yn ystod y diwrnod gwelwyd cyfarchion ar DVD oddi wrth y ddwy nain - Nain Trefor a Nain Nanhoron, ac oddi wrth ffrindiau Heddus a Luis o Gymru oedd yn methu a bod yno gyda hwy.
Mae'r Ganolfan yn cael ei defnyddio yn ddyddiol gan blant ac oedolion i ddysgu a gloywi eu Cymraeg. Dyma ble dysgodd Luis yr iaith ac ar hyn o bryd mae Heddus yn cynorthwyo yn yr ysgol Gymraeg. Wrth gwrs, mae llawer o weithgareddau eraill yn digwydd yno hefyd.
Eleni, i goffau canmlwyddiant sefydlu tref Esquel, argraffwyd calendr arbennig gan y Gymdeithas Gymraeg sydd yn dangos lluniau o'r teuluoedd Cymreig yn yr ardal tua chan mlynedd yn ôl. Rwy'n dal i ryfeddu fod cymaint o Gymraeg i'w weld yno o hyd.
Ychydig ddyddiau ar ôl y briodas croesodd criw ohonom Y Paith - mewn bws mini i Drelew. Aros ar y ffordd am banad yn Rhyd yr Indiaid a Dôl y Plu.
Rhyfeddu at y lliwiau, y siapiau a'r patrymau sydd yn y creigiau. Gwirioni unwaith eto wrth weld y Camwy'n llifo'n hamddenol. Pwy fuasai'n meddwl fod hon wedi gorlifo a rhoi y ffasiwn golledion i'r Cymry yn y cyfnod cynnar.
Rhaid oedd mynd i Borth Madryn - y tro yma yng nghwmni Luis. Unwaith eto llogi bws mini i fynd a ni ac ar y ffordd yno eglurodd Luis i'r gyrrwr mai Cymry oeddem a'n bod yn awyddus i fynd i weld yr ardaloedd ym Mhorth Madryn oedd efo cysylltiadau Cymreig.
Oedd o yn gwybod i ble i fynd a ni? Luis yn chwerthin yn uchel, "Wyddoch chi beth ydy enw ei fam o? Gwenfair!"
Er nad oedd y gyrrwr yn siarad Cymraeg roedd yn gwybod popeth am ei gysylltiadau Cymreig ac yn falch o hynny.
Dangosodd y cerfluniau hardd sydd yn cofnodi glaniad y Cymry, yr ogofâu ble buont yn byw a'r gofgolofn sydd yn enwi'r teithwyr oedd ar y Mimosa.
Bu'n rhaid i Heddus a Luis sefyll yn hir yma i bawb gael lluniau gan mai'r enwau cyntaf ar y gofgolofn ydy Thomas Tegai a William Austin. (dau frawd o Aberpennar).
Y diwrnod canlynol gwnaethom yn siŵr mai'r un gyrrwr oedd yn mynd a ni o gwmpas eto. Dangosodd Gapel Salem i ni - yr unig gapel yn y Wladfa sydd wedi ei wneud o bren a sinc; aeth â ni i ardal y Tir Halen, Bryncrwn, Y Gaiman ac i Ddolafon - ac roedd yn hynod o falch o gael dangos bedd Lewis Jones i ni.
Yn yr Amgueddfa yn Nhir Halen cawsom gyfarfod â geneth sydd yn bwriadu dod i Gymru y flwyddyn nesaf i wella ei Chymraeg.
"Athrawes ddiddorol ydy Esyllt," medda hi. Byd bach!