Roedd cryn ddisgwyl i weld be fyddai canlyniad y cynllun magu/gollwng gleisiad ond, hyd yn hyn, does dim golwg am unrhyw ganlyniad positif.
Ond, er hyn i gyd, mae'r tymorau'n hwyrhau a phrynhawn heddiw, sef dydd Gwener, 26 Medi, mae nifer fawr o eogiaid yn neidio yn y Fenai ger Traeth Bach, sef ychydig islaw Pont Yr Aber.
Os daw glaw yn y
dyddiau nesaf yna mi fydd pawb
wedi anghofio am y prinder drwy'r tymor, ond dyna yw 'sgota.
Uchafbwyntiau
Drwy ystyried fod dim llawer wedi dod i'r enwair, mae rhai uchafbwyntiau wedi bod.
Patrwm eleni yw fod yr eogiad yn fwy, canlyniad efallai i dynnu y rhwydi i ffwrdd oddi ar arfordir gorllewinol Iwerddon.
Y 'sgodyn trymaf o'r Seiont yw clamp o eog yn pwyso dros 15 pwys, a'r 'sgotwr medrus oedd Dr Robin Parry, Llanberis, a
oedd wedi codi'n gynnar i dderbyn ei wobr o Lyn Engan.
Un arall oedd
un am 13 pwys o Stablau gan Richard Butterfield, Llanddeiniolen, a'r ddau sgodyn braf yma wedi dod i'r bluen.
Sewin
Mae pethau'n dechrau gwella ym myd y sewin, diolch i'r drefn. Ar ôl blynyddoedd llwm iawn mae newyddion da ar gael, y trymaf i mi glywed amdano yw un am 5 pwys i Stephen Lloyd o'r Groeslon, hefyd gyda sewin rhwng 2 a 3 phwys mae Malcolm Owen a Wyn Parry,
Caernarfon, a Kevin Morgan,
Waenfawr.
Mae Llyn Padran yn dal i
'sgota'n dda.
Rwyf i'n cael hwyl
arbennig ar y brithyll brown, ond trio dal torgoch yw'r gamp. Digon o frithyll ond dim torgoch, peth rhyfedd, ond mae rhyw bythefnos i fynd - cawn weld be ddaw.
Baw ci
Draw ar y Llyfni mae'r sewin eleni wedi bod yn arbennig, gyda Phyllau Lan Môr, Pontllyfni, wedi bod yn boblogaidd iawn.
Diolch i'r criw bach sydd wedi bod wrthi yn
gwneud gwaith ardderchog yn glanhau'r glannau.
Yr unig beth sy'n tynnu oddi wrth y fan
fendigedig yma yw agwedd rhai aelodau o'r cyhoedd sy'n gadael i'w cŵn faeddu'r llwybrau heb godi'r budreddi i fyny.
Rhaid sylweddoli mai eiddo y Gymdeithas yw'r tir yma, ac mai ar ochr arall i'r afon y mae'r llwybr cyhoeddus.
Mae cryn bwysau gan yr aelodau i wneud rhywbeth am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yma.
Mae'n siŵr y buasai cryn gwyno ac ysgrifennu at wahanol rai pe
byddai'r clwb yn cymryd camau i gau'r cyhoedd allan o'r lle
poblogaidd yma.
Ond, wedi'r cwbl, tydi eistedd ar faw ci yn nhywyllwch y nos ddim yn beth pleserus iawn chwaith, yn enwedig o fod hefyd wedi talu am y fraint o wneud! !
Tocynnau
Mae cynnydd blynyddol yn yr ymwelwyr sy'n dod i fwynhau llynnoedd Nantlle, Cwellyn a
Dywarchen, a pheth pleserus yw
adrodd bod y tocynnau dyddiol i'r llynnoedd yma wedi rhedeg allan ddwy waith eleni.
Rhaid rhoi
diolch arbennig i Graham, Julie, Zoe a gweddill staff y Cwellyn Arms, Rhyd-ddu, am eu hymroddiad i werthu'r tocynnau, a hurio'r cychod a'r peiriannau ar ein rhan.
Ond mae hefyd, medd Graham, yn troi busnes i'w westy a'r cyfleusterau gwyliau y mae o a'i deulu yn eu rhedeg yn y fro.
Bechod nad oes neb yn Nyffryn Peris am efelychu be sy'n digwydd yn ardal Rhyd-ddu. Buasai'n hwb mawr i'w busnes.
Peidiwch i gyd a ffonio ar unwaith at y tymor nesaf.
Huw Price Hughes