| Ar ddiwedd y tymor, daeth Gwyn i'r brig allan o dros gant o fyfyrwyr cyffelyb, gan ennill Tlws Myfyriwr y Flyddyn mewn Amaethyddiaeth. Yn ystod y mis teithiodd i fferm y mhentref Darowen ger Machynlleth i gael profi ei allu fel cneifiwr. Roedd wedi cyrraedd y safon sylfaenol y llynedd, ond yn tro hwn roedd yn ymgeisio am yr efydd. Roedd angen iddo fodloni'r beirniaid ar safon ei gneifio a chneifio dwsin o ddefaid mewn awr. Cwblhaodd ei dasg mewn tri chwarter awr. Yn anffodus, mae'n rhaid iddo disgwyl nes cyrraedd ei benblwydd yn ddwy ar bymtheg oed cyn y caiff ymgeisio am safon arian. Bydd Gwyn yn cychwyn ar gwrs amaethyddiaeth llawn amser yng Nglynllifon ym mis Medi, ond pan alwodd gohebydd yr 'Eco' i gael sgwrs ag ef ynglŷn â'i obeithion, doedd o ddim adref - roedd wedi mynd i gneifio!
 |