| Fe gafodd Anna Marie Robinson, o Benisarwaun, y syniad o wneud CD llawn hwiangerddi Cymraeg ar ôl nosweithiau hir di-gwsg yn magu ei dau o blant. Felly dyma fynd ati i gysylltu hefo cwmni recordiau SAIN i weld a oedd ganddyn nhw ddiddordeb yn y syniad. Er bod nifer o hwiangerddi eisoes wedi eu recordio dros y blynyddoedd, doedd yna 'run casgliad cyflawn yn arbennig i suo plant i gysgu ar gael yn Gymraeg, er bod digon o ddewis mewn ieithoedd eraill. Felly dyma SAIN yn cytuno i fynd ati i baratoi'r CD newydd. Bu Anna yn cymryd rhan yn y broses o ddewis yr artistiaid - rhai yn gyfraniadau hunan ddewisol gan nifer o berfformwyr; rhai yn hwiangerddi traddodiadol ac eraill yn ganeuon newydd sbon, wedi eu hysgrifennu gan yr artistiaid ar gyfer eu plant eu hunain. Meddai Anna, sy'n wraig i Tudur Huws Jones - un o'r artistiaid sy'n canu ar y CD ac sydd newydd rhyddhau CD newydd ei hun: "Mae pob rhiant bron wedi gorfod codi am dri y bore i drïo swyno'r babi 'nol i gysgu. "Tra'n gwneud hyn noson ar ôl noson a cheisio canu i gael Magi a Moi i gysgu - efallai mai fy llais oedd ar fai - mi benderfynais chwilio am CD o suo-ganeuon Cymraeg. Methu canfod un, ond wrth wneud ymchwil ar y we dod ar draws safle BBC Radio 3 lle roedd Top Ten lullabies o draws y byd, a rheiny wedi eu recordio gan rieni 'normal' yn eu mamiaith - er enghraifft Swahili, Pwyleg, ac Eidaleg - doedd rhain ddim yn gantorion proffesiynol. Roedd yn hynod o drawiadol a naturiol efo'r llais a rhythm pob cân yn suo. "Dyma fynd ati i sgwennu fy syniadau ar bapur pa fath o CD fyddai, pwy fyddai'n cyfrannu, o ble byddai'r caneuon yn dod a, blwyddyn yn ddiweddarach, dyma hi ar werth. "CD wedi ei hanelu at rieni babis a phlant ifanc ydi hi rhywbeth i'w rhoi 'mlaen yn oriau man y bore, gyda chymysgedd o ganeuon traddodiadol, sydd unai eisoes wedi eu recordio neu yn bodoli a heb eu recordio, a hefyd ganeuon gwreiddiol. Mae'r pwyslais ar y llais yn hytrach nag offerynnau. Y syniad oedd ceisio rhoi'r teimlad mai llais mam, dad, nain neu taid sydd yn canu. "Mae yna ganeuon gwreiddiol gan sawl artist: Steve Eaves wedisgwennu Nos Da Mam o safbwynt y plant yn eu gwlâu; Iwan Llwyd wedi sgwennu a chanu am ei ferch Rhiannon; Geraint Lovgreen yn canu cân yr oedd ei fam yn ei ganu iddo fo pan yn blentyn, Myfi Sy'n Magu'r Baban; Catrin Edwards a Dyfan Roberts wedi cyfansoddi'r gân, Nos Da Nawr ac Acoustique yn ei chanu, ac mae Dafydd Iwan wedi cyfieithu cân draddodiadol hyfryd Corsican i'r Gymraeg."
 |