BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Arwydd 30 milltir yr awr77 milltir yr awr ...
Medi 2005
ar lôn 30 mya
Mae pryder am ddiogelwch pobol a phlant yr ardal oherwydd goryrru ar ffyrdd peryglus.
Ac wrth i un car gael ei fesur yn gyrru 77 milltir yr awr ar lôn 30mya mewn un pentref, mae galw ar yr awdurdodau i ddatrys y broblem rŵan, cyn bod damwain ddifrifol yn digwydd.

Mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Cymuned Llanrug fe drafodwyd y mater a thynnwyd sylw at sawl lleoliad peryglus yn yr ardal.

Un o'r rheiny oedd croesffordd yr Efail a Ffordd Glanmoelwyn, Llanrug. Mae nifer o drigolion yn poeni y gallai damwain ddigwydd yn y dyfodol gan fod trafnidiaeth cyson a phrysur yn defnyddio'r groesffordd. Yr hyn sy'ngwneud y sefyllfa yn waeth yw bod cymaint o blant yn byw ac yn chwarae yn ei hymyl - ac mae galw am rhyw ddull o arafu'r traffig.

Mynegwyd pryderon hefyd am ardal Tan-y-Coed a Bryngwyn. Yn gyntaf mae angen gwella cyflwr ochr y ffordd o Groeslon Marc i Groesffordd Bryngwyn, ond hefyd mae nifer yn poeni am ddiogelwch y ffordd o Fecws Bryngwyn i lawr i Dan-y-Coed.

Gan fod ceir yn cael eu parcio o flaen y tai a cheir yn trafaelio ar hyd y ffordd yn llawer rhy gyflym, mae'n lôn beryglus - yn enwedig gan fod becws boblogaidd a maes carafannau ar groesffordd Bryngwyn. Mae hefyd yn anodd iawn i gerddwyr gael lle i gerdded yn ddiogel yma.

Yn ddiweddar bu un o'r trigolion mewn cysylltiad efo 'Siwrnai Saff', sy'n ymgyrchu i wneud ffyrdd Gogledd Cymru yn saffach drwy annog unigolion i gadw at y cyfyngiadau cyflymder, er mwyn tynnu sylw at y broblem.

Gosodwyd offer mesur traffic ar y stryd 'nôl ym mis Ebrill ac mae'r canlyniadau yn cadarnhau'r pryderon.

Roedd 61% o'r drafnidiaeth yn goryrru dros y 30mya, gyda'r rhan fwyaf o'r rhain yn gyrru ar gyflymder o 39mya - bron i draean yn uwch na'r cyfyngiad cyflymder.

Ond yr hyn sy'n fwy syfrdanol yw bod un car wedi bod yn gyrru ar 77mya. Fe ddigwyddodd hyn yn ystod oriau mân y bore - ond roedd gweddill y cyflymderau uchaf hefyd dros 50mya. Mae'r wybodaeth nawr wedi ei basio ymlaen i Heddlu Gogledd Cymru.

Hefyd yn y cyfarfod cymuned roedd trafod ar broblemau traffic yn ochra Cwm y Glo. Gan fod ceir yn cael eu parcio ar ddwy ochr y ffordd yn y pentref, nid yw cwmni bysiau KMP yn gallu gyrru drwy'r pentref yn gynnar yn y bore nac ar ddiwedd y dydd. Mae hyn yn achosi pryder i'r bobl hynny sy'n llwyr ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Hefyd bydd cyfyngder cyflymdra o 40mya yn cael ei roi ar y ffordd A4086 o Gwm y Glo i Lanrug. Mae'r cyngor wedi gofyn am welliant i hyn a chael y cyfyngiad i gychwyn o'r tu draw i'r Fricsan gan bod y ffordd yn achosi pryder i nifer yn yr ardal.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy