| Ymysg yr aml weithgareddau, cafwyd Helfa Drysor, Gwisg Ffansi, Mabolgampau o bob math, Gem Bêl-droed rhwng yr Iau a'r Hyn - gyda'r rhai Hyn yn fuddugol! Roedd rasys hyd yn oed i falwod a gorffen yr oll gyda Sioe Gŵn.
Tra 'roedd yr holl weithgareddau yma ymlaen, cafwyd picnic enfawr ac adloniant gan grŵp Mooncoin a Kev Fox. Da oedd gweld y Caban yn ganolfan nid yn unig i'r pentref ond i'r ardal eang ac yn llawn haeddu canmoliaeth ar ei ben-blwydd.
Llawer o ddiolch i'r Rheolwyr a'r Staff am ddiwrnod i'w gofio. Er mai nid diben y dydd oedd codi arian, fe wnaed elw ac fe'i defnyddir er budd ieuenctid y pentref.
Llawer o ddiolch iddynt hwythau hefyd am ein diddori ar y nos Wener ar barc bwrddsglefrio Cwm-y-Glo.
Diolch i bawb gyfrannodd at lwyddiant y dydd.
 |