| Daw aelodau newydd i dimau pêl-droed yn dra rheolaidd, medda' chithau, ond prin iawn y ceir tad a'i fab yn chwarae i'r un tîm. Gwell hynny na chystadlu yn erbyn ei gilydd, siwr o fod. Ar brynhawn Sadwrn y trydydd ar ddeg o Fawrth, daeth tîm pêl-droed Cyffordd Llandudno draw i gae'r Eithin Duon i chwarae yn erbyn Llanrug yng nghyngrair Honda Welsh Alliance. Dyma'r gêm gyntaf i Gareth Jones, bachgen un ar bymtheg mlwydd oed, ei chwarae i Lanrug, ond amddiffynwr profiadol iawn yw ei dad, Eifion Jones.
 |