BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Gavin Saynor, arweinydd Band Llanrug
22 Rhagfyr 2003
Mae Gavin Saynor, arweinydd ifanc a brwdfrydig Band Llanrug, yn chwaraewr tiwba gorau Ewrop.

Fe'i dewiswyd yn Unawdydd Gorau Ewrop yn dilyn cystadlaethau yn Ffrainc, Norwy a'r Almaen.
Ond er cymaint ei ragoriaethau - fyddech chi ddim yn disgwyl iddo fod yn arwain Band Llanrug.

Un o Ddeiniolen ydi o - y pentref y mae ei fand ben-ben ag un Llanrug.

Os oes yna fand i'w guro un Deiniolen ydi hwnnw heb os nag onibai ac un o'r siomedigaethau mwyaf 2003 oedd dod yn ail i Ddeiniolen yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod!

Wedi gwirioni
Byddai Gavin y cyntaf i gyfaddef ei fod wedi mopio'n llwyr gyda bandiau pres a hynny er pan yn ddim o beth.

Yn ystod y dydd mae'n athro teithiol yng Ngwynedd,Sir Fôn, Dinbych a Blaenau Ffestiniog, ond bob gyda'r nos mae'n tymwneud â bandiau yn arweinydd band Llanrug ac yn arweinydd gwadd band Porthaethwy.

Ond dydi hynny'n ddim byd o'i gymharu a'i orchwyl arall o deithio 260 milltir mewn car ddwywaith yr wythnos i Huddersfield i chwarae gyda band pres enwocaf Prydain, yr YSB - Yorkshire Building Society Brass Band.

"Ma' pob noson o'r wythnos wedi cael ei chymeryd I fyny gyda band, dwi'n obsessed," meddai'r gwr ifanc 27 oed sy'n byw a bod bandiau ac sy'n gwbl argyhoeddedig eu bod yn bethau unigryw:

"Fedrai ddim meddwl am unrhyw weithgaredd arall sy'n dod a rhywun 80 oed a rhywun wyth oed at ei gilydd i gael yr un mwynhad allan o'r un peth," meddai.

.Ei nod a'i uchelgais fawr ar hyn o bryd ydi codi band Llanrug o'r ail adran i'r uwch-adran! .
.
O dir y gelyn!
Efallai mai'r rhyfeddod mwyaf am Gavin yw mai o Ddeiniolen tir y gelyn yn go iawn - y mae o'n dod ond yn dewis arwain Band Llanrug.

A dydi hynny ddim yn mynd i lawr yn dda iawn yn Neiniolen ei hun.
.
"Mae na lot o gythraul canu rhwng y bandia ac yn enwedig rhwng pentre Deiniolen a Llanrug. Mae'r ddau fand yn cystadlu'n erbyn ei gilydd yn y Steddfod, ac yng Nghystadleuaeth bandia pres Pontins.

Geiriau Gavin:
"Dwi o gefndir cerddorol o ochr mam; o ran yr hogia i gyd yn mynd i'r band ac mae'n yncl i'n dal yna brawd Mam.."

"Mae'r ddau fand (Deiniolen a Llanrug) yn rivals mawr ac mae hynny'n beth da a dweud y gwir ddau eisiau gwneud yn well na'r llall sy'n pwsio nhw'n eu blaen dwi'n meddwl.

"Mae na dipyn o ddim drwgdeimlad ond dipyn o agwedd cystadleuol. Y ddau fand yn benderfynol ac eisiau gwneud yn well na'e lall. Wrth gwrs yn y Steddfod fe gurodd Deiniolen ac yn Pontins da ni wedi cael un yn ôl!"

"Mae Llanrug yn fand uchelgeisiol iawn. Dydyn nhw ddim ofn gwaith caled."

"Yiwba dwi'b chwarae neu'r Eflat base da ni'n i alw fo. Nes i gychwyn ar yr euphonium pan oeddwn i'n saith . . ., a symud i'r bas pan oeddwn i'n naw a hanner."

"Pan guris i'r wobr am yr unawdydd gorau roedd o'n beth neis. Roeddwn i'n gwybod faint o waith caled oeddwn i wedi'i wneud i gyrraedd y safon. Ddim rhywbeth oedd jyst yn digwydd.
"Dydw i ddim yn meddwl mod i'n chwaraewr naturiol ond yn chwaraewr sy'n gorfod gweithio'n galed i gyrraedd y safon dwi eisiau."

"Pan ddaeth y feirniadaeth . . . mae'n hawdd teimlo fy mod i wedi gadael y band i lawr ond ar ddiwedd y dydd rydw i wedi gwneud fy ngorau i'r band ac maen nhw'n gwerthfawrogi hynny . . . ac mi roedd y band yn gefnogol ar ôl y canlyniad a doeddan nhw ddim yn fy meio i."

"Pan ddois i'n ôl roedd tymer ddrwg arnai am ychydig o ddyddiau . . . ond rhaid derbyn be mae'r beirniad yn ei ddweud. Ondf mae'n anodd pan da chi'n meddwl eich bod chi wedi chwarae'n dda."

"Mae na lot o dynnu coes ar yr ochr gymdeithasol yn y band. Mae na lot o gymeriadau. Dwi'n meddwl fod hiwmor yn bwysig. Rwbath ella nad ydw i'n ei gael yn Huddersfield. Lot o densiwn yno. Y disgwyliadau a'r perfformiad mor uchel ac mae'n anodd cael hiwmor i mewn i ymarfer. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael yr hiwmor i mewn."

I brif ddalen y band


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy